Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 18 Hydref 2016.
Mae’n rhaid cael gweithgareddau, wrth gwrs, sydd ar gael trwy’r flwyddyn. Mae Surf Snowdonia yn un enghraifft rŷm ni wedi ei gefnogi; Zip World a Bounce Below—rŷm ni wedi cefnogi’r rheini. Mae’n wir i ddweud, wrth gwrs, ei fod yn bwysig dros ben nad yw twristiaeth yn rhywbeth sy’n hollol dymhorol, o achos y ffaith y byddem wedyn yn cyrraedd sefyllfa lle nad yw pobl yn cael cyflog trwy’r flwyddyn. Trwy helpu busnesau a chefnogi busnesau fel hynny, mae’n bosib wedyn i sicrhau bod gweithgareddau ar gael ar draws y flwyddyn er mwyn tynnu pobl i mewn yn y gaeaf a hefyd yr haf.