<p>Gwasanaeth Gofal Sylfaenol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 18 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 1:54, 18 Hydref 2016

Diolch yn fawr am yr ateb yna, Brif Weinidog. Roedd nifer ohonom mewn cyfarfod o’r BMA yma yr wythnos diwethaf, a oedd yn lansio ‘Rhagnodiad brys: Arolwg o feddygaeth teulu yn 2016’. Darlun oedd hynny o’r pwysau anferthol sydd ar feddygon teulu, o gofio bod meddyg teulu’n gweld tua 50 o gleifion bob dydd ar gyfartaledd, a hynny i gyd yn cynnwys problemau cymhleth, dyrys, dwys, achos mae’r problemau syml eisoes wedi cael eu didoli allan y dyddiau yma, a dim ond y problemau dwys sydd ar ôl i’r meddyg teulu gael eu gweld. Ac, wrth gwrs, dim ond y sefyllfaoedd sydd angen meddyg teulu ydy’r rheini. Felly, dyna pam mae’r pwysau’n anferthol—mae yna 50 o gleifion cymhleth sydd ddim ond yn gallu cael eu gweld gan feddyg teulu. Beth allwch chi ei wneud i leihau’r pwysau anferthol yna ar feddygon teulu nawr, y dyddiau yma?