Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 18 Hydref 2016.
Mae’r BMA, wrth gwrs, yn rhan o’r gwaith rydym ni’n ei wneud. Nid ydyn nhw tu fas i hynny. Wrth gwrs, maen nhw’n cynrychioli eu haelodau, rwy’n deall hynny, ond rydym ni wedi bod yn gweithio gyda nhw er mwyn sicrhau bod yna leihad yn y pwysau sydd ar feddygon teulu. Un enghraifft yw’r ‘collaborative’ yn y canolbarth sydd yn gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod gwasanaethau ar gael i bobl yn y canolbarth ac yn ystyried ffyrdd newydd o weithio. Yn y pen draw, wrth gwrs, rydym ni’n moyn gweld mwy o feddygon teulu yn cael eu hyfforddi yng Nghymru a hefyd yn gweithio yng Nghymru. Dyma pam mae’r ymgyrch yn cael ei lansio mewn dau ddiwrnod.