Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 18 Hydref 2016.
Brif Weinidog, mae gan Gymru boblogaeth sy'n tyfu ac yn heneiddio sy'n rhoi pwysau cynyddol ar wasanaethau gofal sylfaenol yng Nghymru. Fel y gall y rhai hynny ohonom a lofnododd y presgripsiwn brys ar gyfer ymarfer cyffredinol dystio, mae pwysau llwyth gwaith ar feddygon teulu yn tanseilio diogelwch gofal cleifion. A wnaiff Llywodraeth Cymru gefnogi cais Cymdeithas Feddygol Prydain i fyrddau iechyd lleol roi terfyn ar yr arfer o fynnu bod meddygon teulu yn cynnal profion wedi’u trefnu mewn rhannau eraill o'r GIG ac i gyflwyno safon genedlaethol ar gyfer isafswm cleifion y gellir disgwyl i feddyg teulu ymdrin â nhw yn ystod diwrnod gwaith?