Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 18 Hydref 2016.
Mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod ei bod fel rheol yn wir, pan fo Meddygon Teulu yn cynnal profion ar ran rhannau eraill o'r gwasanaeth iechyd, eu bod yn cael eu talu am wneud hynny. Nid ydynt yn ei wneud am ddim, ac, o ganlyniad i hynny, nid yw'n wir, felly, eu bod yn canfod nad yw eu hamser yn cael ei ddigolledu yn hynny o beth. Mae’n rhaid i mi ddweud, er enghraifft, yn ogystal â’r hyn yr wyf newydd ei ddweud, eleni, ein bod ni wedi gweld dros 400 o staff ychwanegol yn cael eu recriwtio ledled Cymru, gan gynnwys fferyllwyr clinigol, ffisiotherapyddion a chydgysylltwyr gofal, ac maen nhw’n helpu ac yn cefnogi meddygon teulu yn rhan o ddull amlbroffesiwn o dan arweiniad meddygon teulu. Pan edrychwn ni ar Brestatyn, er enghraifft, rydym ni’n gweld enghraifft wych yno o wasanaeth sydd wedi gwella’n fawr i bobl, a gymerwyd drosodd gan y bwrdd iechyd, lle mae nifer o ymarferwyr ar gael i bobl a gellir eu cyfeirio at yr ymarferwr iawn pan fyddant yn cyrraedd y safle. Mae hwnnw'n fodel da y mae angen i ni ymchwilio iddo ar gyfer gweddill Cymru.