1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 18 Hydref 2016.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau gweithredu pan benderfynir na all cymuned gael ei chysylltu o dan raglen Cyflymu Cymru? OAQ(5)0221(FM)[W]
Pan fydd cymunedau’n holi am argaeledd Cyflymu Cymru, ac mae’n amlwg na fydd BT yn ei ddarparu iddyn nhw, mae’n bosib iddyn nhw wedyn, wrth gwrs, gael eu cynghori i ddilyn dewisiadau eraill trwy’r cynllun grant Allwedd Band Eang Cymru. Mae Superfast Cymru, er enghraifft, wedi cael ei adeiladu ar sylfaen o helpu cymunedau lle nad oes modd masnachol i’w helpu nhw. Ond mae yna ffyrdd eraill i helpu cymunedau sydd y tu fas i’r ddau gategori hynny.
Diolch am yr ymateb yna. Mae isio dathlu, wrth gwrs, y miloedd o gysylltiadau sydd wedi cael eu gwneud o dan raglen Cyflymu Cymru, ond o dan y straeon positif yna, wrth gwrs, mae yna gymunedau ar hyd a lled Cymru sy’n methu â chael cysylltiad. Fe allaf sôn wrthych chi am ardal Brynsiencyn, lle mae cwmni byd-enwog Halen Môn yn dal yn methu cael band eang cyflym. Fe allaf sôn wrthych chi am Landdona, lle mae 14 o deuluoedd yn desbrad i gael band eang cyflym ac isio talu amdano fo ac yn methu â’i gael. Y broblem ydy eu bod nhw’n methu â chael eglurhad o ran pam eu bod nhw’n methu â chael cysylltiad. A ydy’r Prif Weinidog yn cytuno â mi y dylai dadansoddiad o gost yn erbyn budd gael ei gyhoeddi gan Openreach fel bod pobl, yn gyntaf, yn gweld pam fod eu hardal nhw yn rhy ddrud i’w chysylltu, ac, yn ail, fel arf er mwyn chwilio am ffordd amgen i wneud y cysylltiad?
Mae e’n bwysig bod BT yn dweud wrth gymunedau pam nad yw’n bosib i’w cysylltu nhw gyda band eang. Wrth gwrs, nid nod Cyflymu Cymru yw edrych a yw rhywbeth yn fasnachol i’w wneud, ond i sicrhau bod gwasanaeth ar gael. Felly, rwy’n credu bod yna ddyletswydd ar Openreach i ddweud pam ei bod yn ormod o broblem. Wrth ddweud hynny, wrth gwrs, fel y dywedais yn gynharach, mae’n bosib i bobl edrych ar gynlluniau fel Allwedd Band Eang Cymru er mwyn cael arian i’w helpu nhw i gael band eang yn y pen draw. Ond mae’n bwysig dros ben bod rhesymau’n cael eu rhoi gan BT ynglŷn â pham y mae problemau wedi bod lan hyd nawr.
Brif Weinidog, mae mynediad at wasanaeth band eang digonol wedi bod yn fater enfawr hefyd i ni yn sir Benfro. Wrth gwrs, rwy’n croesawu’r camau y cyhoeddodd y Gweinidog yr wythnos diwethaf i helpu’r cymunedau hynny sydd ddim yn gallu cael eu cysylltu o dan broject Superfast Cymru, ac rwy’n deall y bydd yna weithgareddau ymgysylltu nawr yn digwydd. O dan yr amgylchiadau, a allwch chi ddweud wrthym ni sut y bydd Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo’r datblygiadau hyn ac, yn benodol o ran y rhai sy’n byw mewn cymunedau mwy gwledig ac anghysbell, yn sicrhau bod pawb yn gwybod am hyn?
Wel, mae yna adolygiad arall yn mynd i gymryd lle yn ystod yr hydref er mwyn gweld pa fath o lwybr sydd ar gael inni yn gyhoeddus er mwyn helpu rhai o’r cymunedau sydd ddim wedi dod o dan Cyflymu Cymru. Ond maen nhw’n dal yn gallu edrych, wrth gwrs, ar gynlluniau fel Allwedd Band Eang Cymru er mwyn sicrhau bod yna fynediad i fand eang ar gael iddyn nhw os nad ydyn nhw’n dod o dan Cyflymu Cymru.
Brif Weinidog, rydym ni fwy neu lai wedi symud ymlaen ers cychwyn menter Cyflymu Cymru. A dweud y gwir, ceir tri math arall o fand eang neu ffibr-optig, ac rwy’n credu mai band eang hyper-optig yw’r enw arno nawr, sydd 128 gwaith yn gyflymach na'r ceblau cyflym iawn yr ydym ni’n eu gosod ledled Cymru. Mae’r hyn sydd gennym ni yn cyfateb i briffordd pedair lôn yn troi’n lôn wledig droellog. Wrth gwrs, mae gennym ni fand eang yr holl ffordd i fyny at y blychau, ac yna rydym ni’n defnyddio technoleg 128 mlwydd oed i gysylltu'r tai iddo. Felly, fy nghwestiwn i chi yw: yn gyntaf oll, beth ydych chi'n mynd i'w wneud i sicrhau bod gan safleoedd newydd gysylltiadau ffibr i'r safle? Hefyd, beth allwn ni ei wneud i alluogi tai sydd â band eang hyd at y blwch ar waelod y stryd i gael y ffibr yr holl ffordd i’w cartrefi hefyd, os mai dyna sydd ei angen arnynt?
Wel, mae'n ddiddorol, yn yr ystyr o ba un a allwn ni ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr, naill ai drwy'r rheoliadau adeiladu, neu’n fwy tebygol efallai, trwy gytundebau adran 106, osod cysylltiadau â’r dechnoleg ddiweddaraf yn y blychau? Mae e'n iawn: ceir cymysgedd o dechnolegau ar waith o ran system ffôn Prydain, gan y bu’n brin o fuddsoddiad am gymaint o flynyddoedd. Yr hyn yr ydym ni’n ceisio ei wneud gyda Chyflymu Cymru yw cael y rhan fwyaf o bobl i sefyllfa lle gallant lawrlwytho fideo, lawrlwytho cerddoriaeth a gwrando, a lawrlwytho dogfennau mewn cyfnod rhesymol o amser. Ond mae'n wir i ddweud na fydd y cyflymaf yn y byd, o gofio’r ffaith ein bod ni’n gwybod bod systemau cyflymach mewn mannau eraill. Bydd angen buddsoddi’n sylweddol ynddynt, ond mae'n codi awgrym diddorol, er fy mod i’n meddwl tybed a fyddai gan ddatblygwyr farn wahanol o ran pa un a ddylem ni ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr, wedyn, osod y dechnoleg ddiweddar bosibl pan eu bod yn cael caniatâd cynllunio.