Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 18 Hydref 2016.
Mae’r ardd wedi cyflwyno cais i gronfa Dreftadaeth y Loteri i greu gerddi rhaglywiaeth—‘regency garden’—ar y safle. Mae’n debyg bod y cais wedi bod yn llwyddiannus, a hefyd wedi denu posibiliadau o gyfraniadau preifat ar ben hynny, ond mae hyn, yn ôl y gronfa, yn amodol ar gadarnhad gan Lywodraeth Cymru o gefnogaeth y Llywodraeth i’r ardd. Gan ein bod ni’n sôn am filiynau o fuddsoddiad posib i sir Gâr, a allwn ni ddisgwyl ei chymryd yn ganiataol y bydd y cadarnhad yn dod o du’r Llywodraeth?