1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 18 Hydref 2016.
10. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i Ardd Fotaneg Cymru? OAQ(5)0218(FM)
Wel, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith wrthi’n ystyried canfyddiadau’r grŵp gorchwyl a gorffen ar y mater hwn. Bydd yn cyfarfod â chadeirydd a phrif swyddog gweithredol yr ardd tua diwedd yr wythnos i drafod y canfyddiadau.
Mae’r ardd wedi cyflwyno cais i gronfa Dreftadaeth y Loteri i greu gerddi rhaglywiaeth—‘regency garden’—ar y safle. Mae’n debyg bod y cais wedi bod yn llwyddiannus, a hefyd wedi denu posibiliadau o gyfraniadau preifat ar ben hynny, ond mae hyn, yn ôl y gronfa, yn amodol ar gadarnhad gan Lywodraeth Cymru o gefnogaeth y Llywodraeth i’r ardd. Gan ein bod ni’n sôn am filiynau o fuddsoddiad posib i sir Gâr, a allwn ni ddisgwyl ei chymryd yn ganiataol y bydd y cadarnhad yn dod o du’r Llywodraeth?
Bydd yr ardd yn cael £581,000 o refeniw y flwyddyn hon, a £90,000 o arian cyfalaf. Wrth ddweud hynny, mae e’n bwysig bod yr ardd yn dal i ystyried ffyrdd o godi arian mewn ffordd fasnachol. Mae hynny wedi bod yn broblem ers i’r ardd gael ei hagor, lle nid yw’r ardd wedi gallu codi digon o arian ynglŷn â’r gweithredu y maen nhw’n ei wneud yna a’r gweithgareddau sydd ar gael. Ond, rŷm ni’n moyn gweithio gyda’r ardd er mwyn sicrhau bod yna ddyfodol cynaliadwy i’r ardd, ac i ystyried pob ffordd o ariannu’r ardd yn y dyfodol.
Diolch i’r Prif Weinidog.