Part of the debate – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 18 Hydref 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n siomedig, rwy’n credu, bod datganiad wedi ei wneud i’r cyfryngau yr wythnos diwethaf, nodyn briffio wedi ei roi ar gael i'r cyfryngau hyd yn oed, cyn cyflwyno datganiad yma gerbron yr Aelodau. Dyma un o'r ymarferion caffael mwyaf a welodd Cymru erioed a dylwn ddweud bod llawer iawn o gonsensws trawsbleidiol ar yr angen i roi sylw i seilwaith trafnidiaeth Cymru, ac ewyllys, rwy’n meddwl, i weithio gyda'n gilydd a bwrw ymlaen â hyn. Dyna pam rwy’n credu ei bod yn arbennig o siomedig bod y Cynulliad wedi cael ei osgoi yn hyn o beth.
Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ymhelaethu ar yr hyn a ddywedodd eich swyddogion wrth y cyfryngau yr wythnos diwethaf am y trefniadau strwythur a llywodraethu ar gyfer Trafnidiaeth Cymru, y broses gaffael, a gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer model dielw? A gaf i hefyd ofyn sut yr oedd Llywodraeth Cymru yn bwriadu rheoli'r risgiau a amlygwyd yn adolygiad yr archwilydd cyffredinol a'r adolygiad porth o ran caffael ar sail masnachfraint a’r map masnachfraint?
Nodais eich ateb i Leanne Wood yn gynharach hefyd. A allwch chi amlinellu sut mae Trafnidiaeth Cymru yn bwrw ymlaen â datblygiad y fasnachfraint pan nad yw’r map masnachfraint wedi ei gytuno eto? A allwch chi hefyd gadarnhau pa un a yw Trafnidiaeth Cymru yn ymdrin â’r cyhoedd ai peidio? A gaiff ACau gyfarfod â'r rheolwr gyfarwyddwr? A fyddant yn destun craffu gan Aelodau, a hefyd gan y Pwyllgor Economi a Seilwaith?
Yn olaf, dywedasoch wrth y Siambr yn gynharach y mis hwn eich bod chi eisiau gweld prif swyddfa Trafnidiaeth Cymru yn y Cymoedd. Ond mae'n ymddangos eich bod wedi gwrthdroi’r ymrwymiad hwn a byddwn yn ddiolchgar am eglurhad ar y pwynt hwnnw.