Part of the debate – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 18 Hydref 2016.
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am roi cyfle i mi gadarnhau y bydd pencadlys Trafnidiaeth Cymru yn cael ei leoli yn y Cymoedd. Pan wnes i fy natganiad, a oedd yn gynhwysfawr, yn ôl ym mis Gorffennaf, dywedais mai fy mwriad oedd sicrhau bod hynny'n digwydd, a gallaf ddweud wrth yr Aelodau heddiw mai dyna fy mwriad o hyd, pan fyddwn wedi nodi safle addas, i bencadlys Trafnidiaeth Cymru gael ei leoli yn y Cymoedd.
Lywydd, cyflwynais fanylion yn ôl ym mis Gorffennaf ar gyfer bwrw ymlaen â masnachfraint Cymru a'r gororau a cham nesaf y metro, ac roedd cyhoeddiad yr wythnos diwethaf yn rhan o'r broses gaffael. O ran yr hyn a ddywedodd fy swyddogion wrth y cyfryngau neu unrhyw un arall, nid oes dim byd newydd yn yr hyn a gyflwynwyd ac eithrio bod y pedwar cynigydd wedi cael eu henwi. Mae Trafnidiaeth Cymru, fel y mae’r Aelod yn gwybod, yn is-gwmni dielw, sy'n eiddo cyflawn i Lywodraeth Cymru a bydd yn gweithredu mewn swyddogaeth gynghori broffesiynol i gynorthwyo ein gwaith o gaffael a darparu’r fasnachfraint Cymru a'r gororau nesaf. Mae'n cyflogi 22 aelod o staff—arbenigwyr, yr wyf yn hyderus y byddant yn gallu mynd i'r afael â phryderon yr adroddiad a nodwyd gan yr Aelod. O ran y map, a godwyd yn gynharach yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog gan yr Aelod Leanne Wood, rydym ni wedi dod i gytundeb gyda'r Adran Drafnidiaeth ar y map, gan gynnwys y ddarpariaeth ar gyfer gwasanaethau a fydd yn ymestyn i Fryste ac i Lerpwl.
O ran gweithredu gwasanaethau trawsffiniol, bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod ni eisoes wedi sefydlu a chytuno un cytundeb asiantaeth gyda'r Ysgrifennydd Gwladol ac rydym ni yn y broses o gwblhau cytundeb gyda'r Ysgrifennydd Gwladol ar ail gytundeb asiantaeth a fydd yn ymwneud â theithio trawsffiniol. Fodd bynnag, rwy’n cydnabod bod pryderon gwirioneddol a dilys ar draws y ffin ymhlith llawer o deithwyr sy'n dechrau ac yn gorffen eu teithiau yn Lloegr. Am y rheswm hwnnw, rwy’n benderfynol o wneud yn siŵr bod gennym ni’r prosesau cywir ar waith ar gyfer eu cwynion neu, yn wir, i unrhyw un o’u pryderon gael eu mynegi ac i gael sylw priodol. Am y rheswm hwnnw, rwy’n rhagweld y byddaf yn sicrhau bod y fforwm trawsffiniol sy'n bodoli ar hyn o bryd yn parhau ymhell i'r dyfodol.