Part of the debate – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 18 Hydref 2016.
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau. Roeddem ni’n siomedig iawn nad yw Llywodraeth y DU wedi cytuno i fuddsoddi mwy yn y rhwydwaith yng Nghymru a’r rhannau hynny o'r rhwydwaith yn Lloegr sy'n cael eu gweithredu yn rhan o'r fasnachfraint bresennol. Yn hanesyddol, nid yw’r rhwydwaith wedi cael ei ariannu'n ddigonol, ac rwy'n credu bod yr ystadegau diweddaraf yn awgrymu mai dim ond 1 y cant o'r gwariant ar y rhwydwaith sydd wedi dod i lwybrau yng Nghymru. Felly, heb os nac oni bai, mae angen cynyddu'r buddsoddiad mewn llwybrau yng Nghymru yn sylweddol. Yn wir, hoffem weld y cyllid hwnnw’n cael ei ddatganoli fel y gallem ni sicrhau bod swm cywir a phriodol o fuddsoddiad ar gael.
Lywydd, rwy’n credu y dylwn i ddweud, er mwyn sicrhau cystadleuaeth deg ac agored ac, yn wir, i amddiffyn uniondeb y broses, nad yw'n mynd i fod yn bosibl i mi gyhoeddi unrhyw fanylion penodol, neu bydd Llywodraeth Cymru yn wynebu’r risg o her gyfreithiol cyn belled ag y mae'r broses gaffael yn y cwestiwn. Fodd bynnag, hoffwn, mewn ymateb i gwestiynau’r Aelod, amlinellu unwaith eto yr hyn a ddywedais ym mis Gorffennaf gyda rhai manylion am y dyddiadau gwirioneddol.
Rydym ni wedi mynd trwy broses yr ymgynghoriad gyda'r cyhoedd. Rwy'n credu fy mod i wedi dweud ôl ym mis Gorffennaf ein bod ni wedi derbyn oddeutu 190 o ymatebion gan amrywiaeth eang iawn o randdeiliaid. Hysbysodd yr ymgynghoriad hwnnw gam cychwynnol y trafodaethau gyda darpar gynigwyr. Yr wythnos diwethaf, nodwyd ac enwyd pedwar cynigydd fel rhai sydd â diddordeb mewn cymryd y fasnachfraint nesaf. Erbyn mis Tachwedd eleni, bydd y cynigwyr wedi ymateb i'n cais am atebion pellennig.
Soniodd Leanne Wood yn gynharach am fater penodol o ran ei chysondeb ynghylch teithio ar y rheilffyrdd. Yr hyn fydd yn digwydd nesaf, wrth i’r cynigwyr ddatblygu eu datrysiadau technegol, yw y byddant yn canolbwyntio ar sut i gyflawni ein hamcan allweddol o ddarparu pedwar gwasanaeth yr awr i bob un o'r Cymoedd. Felly, yr hyn a fydd yn digwydd hyd at fis Tachwedd yw y bydd cyfres o atebion amlinellol yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Yn dilyn hynny, byddwn yn agor ymgynghoriad a fydd yn para am oddeutu 12 wythnos. Bydd hwnnw'n cael ei reoli a'i weithredu gan Drafnidiaeth Cymru. Unwaith eto, bydd yn galluogi'r cyhoedd a bydd yn galluogi rhanddeiliaid i gynnig sylwadau ar y fasnachfraint yn y dyfodol. Bydd deialog yn cychwyn gyda'r cynigwyr wedyn yn y flwyddyn newydd—ym mis Ionawr 2017, rydym ni’n rhagweld—a bydd y broses dendro derfynol yn digwydd rhwng mis Gorffennaf a mis Medi y flwyddyn nesaf, ac yna, fel y mae’r Aelodau yn gwybod eisoes, bydd y contract yn cael ei ddyfarnu erbyn diwedd 2017, gyda gweithrediadau’n cychwyn yn 2018.
Gofynnodd yr Aelod UKIP i mi’n gynharach am ddyddiadau ac amserlenni ar gyfer gweithrediad y metro. Fel y mae'r Prif Weinidog wedi ei nodi eisoes, mae cam 1 yn cael ei ddarparu mewn gwirionedd, gyda £13 miliwn o fuddsoddiad yn y rhwydwaith. Rydym ni’n disgwyl i gam 2 ddechrau o 2017 ymlaen, gyda gwaith cynnar yn dechrau ar gam 2 y metro yn 2018, fel bod gwasanaethau metro yn y dinas-ranbarth wedi’u cwblhau ac yn weithredol erbyn 2023.