2. Cwestiwn Brys: Masnachfraint Cymru a'r Gororau

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 18 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:21, 18 Hydref 2016

Yn naturiol, yn dilyn o hynny, mae yna bryder ar yr ochr hyn i’r ffin am safon gwasanaethau rheilffyrdd hefyd, gan bobl Cymru. Fel sydd wedi cael ei gyfeirio ato eisoes, rydym wedi gweld y pedwar cwmni yma’n bidio am fasnachfraint Cymru a’r gororau ac, yn naturiol, rydych chi, i fod yn deg, wedi ateb cwestiynau ysgrifenedig gennyf i yn y gorffennol ynglŷn â sut yn hollol fydd y rheilffyrdd yma’n cael eu gweithredu o dan y fasnachfraint ac a fydd y rheilffyrdd yn aros yn sylfaenol yr un peth. Beth rydych wedi’i ddweud, ac i ddyfynnu’n uniongyrchol:

‘routes operated under the next Wales and Borders franchise to be broadly unchanged.’

Rwyf wedi gwrando ar yr atebion sydd wedi’u derbyn gerbron eisoes heddiw, ond beth mae ‘broadly unchanged’ yn ei olygu yn y cyd-destun yma? A fydd y rheilffyrdd mwyaf proffidiol yn aros fel rhan o’r fasnachfraint yma? Oni bai am hynny, efallai y byddwn ni’n ffeindio’n hunain mewn sefyllfa braidd yn bisâr pan fyddwn ni’n gallu, o’r Cynulliad yma, rhoi’r hawl i redeg rheilffyrdd Cymru a’r gororau i gwmnïau preifat o unrhyw le yn y byd, gan ariannu eu ‘shareholders’ nhw hefyd mewn gwledydd tramor, â fawr ddim grym ein hunain dros fuddsoddiad yn ein rheilffyrdd ni yma yng Nghymru.

Felly, a allaf i ofyn, yn y dyfodol—rwy’n sylweddoli bod y gwaith ar y fasnachfraint yma yn mynd gerbron—a oes cynlluniau yn y fasnachfraint nesaf i hawlio mwy o fuddsoddiad yn y rhwydwaith rheilffyrdd yma yng Nghymru? Diolch yn fawr.