Part of the debate – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 18 Hydref 2016.
Yr wythnos diwethaf, dywedodd y Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol:
Bydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gweddnewid y ffordd yr ydym yn diwallu anghenion yr holl bobl sydd ag anghenion gofal a chymorth, gan gynnwys pobl ag awtistiaeth, a'u gofalwyr.
A gaf i ofyn, felly, am ddatganiad gan y Llywodraeth ar y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a sut y mae'n gweithio?