– Senedd Cymru am 2:28 pm ar 18 Hydref 2016.
Yr eitem nesaf yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy’n galw ar Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Lywydd. Dim ond eisiau dweud nad oes gennyf ddim newidiadau i'w gwneud i agenda heddiw. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi lleihau'r amser a ddyrennir i gwestiynau yfory i Gomisiwn y Cynulliad, ac mae hefyd wedi cytuno mai’r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Fil Cymru fydd yr eitem busnes olaf i gael ei chynnal cyn pleidleisio yfory, ac addaswyd yr agenda yn unol â hynny. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad busnes, y gellir ei weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael yn electronig i'r Aelodau.
A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog cynllunio, arweinydd y tŷ, ar ddefnydd awdurdodau lleol o adrannau 106, ac yn arbennig eu defnydd wrth roi ystyriaeth i ddatblygiadau hunanadeiladu neu ddatblygiadau preswyl bach? Gall adrannau 106 fod yn ddefnyddiol iawn mewn datblygiadau masnachol, gan ddenu arian ar gyfer addysg a chyfleusterau cymunedol eraill, ond does bosib y gallant fod yn arf y gellir ei ddefnyddio i gael arian o ddatblygiadau hunanadeiladu neu ddatblygiadau bach o dri neu bedwar tŷ. Gallai hynny gael effaith andwyol ar adeiladwyr bach, sydd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, yn gallu cael effaith economaidd enfawr os bydd yr adeiladwyr hynny yn cael bwrw ymlaen, ond gall defnyddio adran 106 yn y ffordd anghywir, mewn gwirionedd, atal y datblygiadau hynny rhag bwrw ymlaen. Bu achos llys yn ddiweddar a ddedfrydodd o blaid y trefniadau sy'n berthnasol i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, sydd yn eithrio datblygiadau ar raddfa fach rhag y defnydd o adrannau 106.
Wel, mae’r Aelod yn codi pwynt pwysig ynglŷn ag adran 106, sydd, yn wir, yn ddarpariaeth bwysig iawn yn y gyfraith gynllunio, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn unol â hynny i egluro'r pwynt hwnnw.
Yr wythnos diwethaf, dywedodd y Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol:
Bydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gweddnewid y ffordd yr ydym yn diwallu anghenion yr holl bobl sydd ag anghenion gofal a chymorth, gan gynnwys pobl ag awtistiaeth, a'u gofalwyr.
A gaf i ofyn, felly, am ddatganiad gan y Llywodraeth ar y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a sut y mae'n gweithio?
Wel, yn amlwg, mae gweithrediad y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, a ddaeth i rym ar 6 Ebrill, erbyn hyn yn destun craffu ac ystyried o ran canlyniadau, ac rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon wedi nodi yn glir fframwaith tair blynedd ar gyfer gwerthuso’r Ddeddf, a byddwn yn adrodd ar hynny fel y bo'n briodol. Ond rwy'n credu hefyd ei bod yn bwysig i chi wybod, fel Aelod, bod cyfarfod cyntaf y grŵp rhanddeiliaid wedi dangos bod y broses—. Mae’r grŵp, sydd wedi’i gadeirio gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans, eisoes wedi cyfarfod i drafod y cynnydd wrth roi’r Ddeddf ar waith, a bydd y grŵp yn monitro hyn yn agos iawn. Ond, hefyd, mae gan bob rhanbarth fwrdd rhanbarthol ar waith sy'n gyfrifol am yr agenda newid a bwrw ymlaen â chyflawniad y Ddeddf.
Arweinydd y tŷ, a gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw, os gwelwch yn dda? Un gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar fynegai yr UE o gynnydd cymdeithasol rhanbarthol—astudiaeth a restrodd Cymru yr isaf o blith gwledydd cartref y DU o ran cael gafael ar wybodaeth sylfaenol, ac, wrth gwrs, mae hynny wedi arwain at bryderon sylweddol ymhlith rhieni yn arbennig, ac mae’n ergyd arall i’w hyder yn ein system addysg. Tybed a hoffai Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ymateb i’r astudiaeth benodol honno a rhoi hwb i hyder y bobl yng Nghymru yn ein system addysg.
Ac, yn ail, fel hyrwyddwr rhywogaethau y wiwer goch, roeddwn i’n bryderus iawn o glywed am farwolaeth nifer o wiwerod coch ar Ynys Môn heddiw, o bosibl o ganlyniad i feirws. Tybed a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi poblogaethau gwiwerod coch mewn rhannau eraill o Gymru ac i fonitro pa mor agored y maen nhw o bosibl i feirysau o'r fath, yn enwedig mewn lleoedd megis Coedwig Clocaenog yn fy etholaeth fy hun? Diolch.
Mewn ymateb i'ch cwestiwn cyntaf, Darren Millar, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol y cyhoeddwyd yr wybodaeth am astudiaeth mynegai yr UE ar gynnydd cymdeithasol rhanbarthol ym mis Chwefror eleni, ac, yn ddiweddar, yr ailgyhoeddwyd yr un wybodaeth ar ffurf tabl cynghrair gan felin drafod. Ers casglu’r data gwreiddiol, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canlyniadau TGAU dros dro wedi eu gwirio. Yn ogystal, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad i'r Cynulliad ar y Rhaglen swyddogol o ffigurau Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd cyn gynted ag y cânt eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
O ran eich ail bwynt, ydy, wrth gwrs, mae’r wiwer goch yn ffodus iawn o’ch cael chi yn hyrwyddwr rhywogaethau iddi, ddywedwn i. Ond byddwn i hefyd yn dweud, ar ôl i chi dynnu ein sylw at hyn heddiw, rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymchwilio i’r mater ac yn adrodd yn briodol.
Weinidog, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru? A gaf i ddatganiad yn gyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig? Cyn etholiadau'r Cynulliad yn 2016, cawsom ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru ar foratoriwm ar ffracio. Byddai'n ddiddorol cael cadarnhad o’r ymrwymiad hwnnw gan Ysgrifennydd y Cabinet i sicrhau nad yw ffracio yn opsiwn i unrhyw fuddsoddwr yma yng Nghymru, er mwyn i ni wybod yn glir ble yr ydym ni arni. Mae’r ail ddatganiad yn sgil y gwaith sydd wedi ei wneud gan grwpiau cymunedol yng Nghwm Afan, yn enwedig gweithgarwch Hamdden Cymunedol Cwm Afan, dan arweiniad Brian Gibbons, fy rhagflaenydd. O ganlyniad i'w ymdrechion, bydd pwll nofio Cymer yn agor dydd Sadwrn, a hynny yn sgil gwaith caled pwyllgor o drigolion lleol. A gaf i ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i siarad mewn gwirionedd am y cymorth sydd ar gael i grwpiau cymunedol o'r fath wrth sefydlu a chymryd yr awenau o ran cyfleusterau cymunedol a chynnig gwasanaethau cyhoeddus, megis pyllau nofio a chanolfannau hamdden?
Diolch i chi, David Rees, am y cwestiynau hynny. Rwy'n falch eich bod wedi rhoi cyfle i ni, unwaith eto, fel Llywodraeth Cymru, i’w gwneud yn glir iawn bod Llywodraeth Cymru yn parhau i wrthwynebu ffracio. Mae'r cyfarwyddiadau hysbysu cynllunio yr ydym wedi eu cyhoeddi yn atal awdurdodau cynllunio lleol rhag rhoi caniatâd i ddatblygiadau nwy anghonfensiynol er mwyn nwyeiddio glo tanddaearol, ac mae hyn, wrth gwrs, yn dilyn polisi cynllunio cenedlaethol cyfredol, gan nodi effeithiau amgylcheddol y mae'n rhaid rhoi sylw iddyn nhw o ran unrhyw ddatblygiad arfaethedig nad yw'n effeithio ar yr amgylchedd, cymunedau neu gymdeithas ehangach. Ond, rwy'n credu, hefyd, mae eglurhad y polisi gan y cyn Weinidog, a'r Gweinidog cyfredol bellach, wrth gwrs, o ran cyfrifoldeb Ysgrifennydd y Cabinet-. Cyhoeddwyd hynny ym mis Gorffennaf 2014, ac mae'n tynnu sylw at yr ystyriaethau hyn a’u pwysleisio o’r newydd.
O ran eich ail bwynt, rydym eisoes wedi crybwyll hyn y prynhawn yma mewn ymateb i’r cwestiynau i'r Prif Weinidog. Ac, yn amlwg, mae hyn yn enghraifft dda iawn, onid yw, o allu’r gymuned i gydweithio? Mae'n dda clywed y bu Dr Brian Gibbons yn rhan o hynny—cyn Aelod o'r Cynulliad hwn—a bod y pwll nofio yn y Cymer yn mynd i allu cael ei ddefnyddio gan y gymuned leol bellach. Mae ffyrdd y gall llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru gynghori, ac, wrth gwrs, mae'n ymwneud â sicrhau y gwarentir yr ymatebion mwyaf addas, nid yn unig o ran cymorth grant, ond o ran atebolrwydd i lywodraeth leol, i gyrff cyhoeddus eraill.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo ysgol feddygol fwyaf Cymru ers iddi gwympo 20 lle yn ddiweddar yn rhestr y 'Complete University Guide', a'r effaith y gallai hyn ei chael ar ymrwymiad maniffesto Llywodraeth Cymru i ddarparu mwy o hyfforddiant i feddygon yng Nghymru? Hoffwn ofyn hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddi datganiad ategol ar y toriadau yn Ysgol Feddygol Caerdydd mewn nifer o feysydd ymchwil arwyddocaol, megis cardioleg, niwroleg, a gofal asgwrn cefn cymhleth, a pha effaith y mae'n rhagweld y bydd y weithred hon yn ei chael ar ein gallu i fagu ein harbenigwyr ni ein hunain yng Nghymru. Mae hyn yn arbennig o allweddol yn amlwg wrth ystyried yr effaith a gaiff cyflyrau megis clefyd y galon ar iechyd y cyhoedd yn y wlad hon.
Wel, wrth gwrs, mae’r arian a'r cymorth a roddwn i Ysgol Feddygol Caerdydd, sy’n rhan o Brifysgol Caerdydd, yn amlwg yn cyflawni canlyniadau, ac wedi ei chefnogi yn dda gan Lywodraeth Cymru. Gwn y bu ymweliad â'r ysgol feddygol yn ddiweddar, a chredaf i hyn fod yn ddiddorol iawn, o ran y trafodaethau â'r rhai sy'n gyfrifol am yr ysgol feddygol. Ond, wrth gwrs, mae addysg feddygol ar frig y rhestr, nid yn unig o ran ein hymrwymiadau a’n blaenoriaethau, ond hefyd ein huchelgeisiau, er mwyn sicrhau bod gennym weithlu gofal iechyd priodol yng Nghymru.
Yn ystod y penwythnos, roeddwn i’n falch iawn o gwrdd â sylfaenydd Recovery Mummy, sy’n sefydliad a sefydlwyd i ymgyrchu dros a chefnogi merched sy'n dioddef o iselder ôl-enedigol a phroblemau iechyd meddwl amenedigol eraill. Roedd hi’n drafodaeth emosiynol dros ben ac anodd dros ben. Rwy'n credu ei bod hi’n ddigon anodd bod yn rhiant newydd a gofalu am faban am y tro cyntaf, yn ogystal â gorfod delio â phroblemau iechyd meddwl. Felly, tybed a fyddai'n bosibl cael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon i nodi'r hyn y gallwn ni ei wneud i helpu menywod yn y sefyllfa hon.
Wel, mae Julie Morgan yn dwyn i’n sylw ddatblygiad newydd pwysig iawn. Rydych chi’n disgrifio mam o Gaerdydd sy’n mynd ati i weithredu ar hyn, gan gynnig cefnogaeth i fenywod sy'n dioddef o iselder ôl-enedigol, seicosis amenedigol, a materion iechyd meddwl eraill. Yn wir, gwn y rhoddwyd sylw i hyn yn natganiad Ysgrifennydd y Cabinet yr wythnos diwethaf ar ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’— cydnabyddiaeth o anghenion iechyd meddwl mewn cysylltiad â materion amenedigol a’r pwynt hollbwysig hwnnw i’r fam a'r baban. Felly, credaf fod y gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol newydd a sefydlwyd y llynedd ledled Cymru yn datblygu'n dda, wrth i staff arbenigol newydd gael eu recriwtio, wedi’u cefnogi gan £1.5 miliwn o fuddsoddiad newydd. Ond mae’r enghraifft hon, yn fy marn i, yn dangos faint y mae'n rhaid i ni wrando ar y rhai sydd angen y gwasanaethau hynny ac yn eu defnyddio; faint y dylem ni wrando arnynt a’u cefnogi yn y ffordd honno.
A gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Yn gyntaf, ar ddiogelwch cymunedol yng Nghymru, yn dilyn yr adroddiad o'r un enw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, a lansiwyd heddiw. Mae hyn yn dweud, ac mae yn llygad ei le:
‘Mae diogelwch cymunedol yn ymwneud ag ymdeimlad pobl o ddiogelwch personol a pha mor ddiogel y maent yn ei deimlo mewn cysylltiad â’r lle y maent yn byw, yn gweithio ac yn treulio eu hamser rhydd ynddo.’
Ond mae'n mynd ymlaen i ddweud:
‘Nid oes gan Lywodraeth Cymru strategaeth unigol ar gyfer diogelwch cymunedol ac mae wedi canolbwyntio ei gweithgareddau ar gyflenwi’r Rhaglen Lywodraethu. Er bod gan bob awdurdod lleol a’r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu gynlluniau, nid ydynt wedi’u halinio’n gyson i sicrhau’r defnydd gorau o adnoddau a’r effaith fwyaf bosibl, ac nid yw’r flaenoriaeth genedlaethol, ranbarthol a lleol yr un peth mewn unrhyw faes. Mae cynllunio datgymalog a chydgysylltu gwael yn esgor ar y perygl y bydd sefydliadau naill ai’n dyblygu gweithgarwch, neu’r perygl na fydd yr un ohonynt yn canolbwyntio ar y materion pwysicaf.’
Ac maent yn argymell eich bod chi, gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu ac awdurdodau lleol, yn
‘gwella gwaith strategol â phartneriaid drwy fynd ati’n ffurfiol i greu byrddau diogelwch cymunedol effeithiol’ yn lle'r mecanwaith presennol. Mae hyn yn amlwg yn bwysig. Rhoddwyd, yn gywir, sylw helaeth iddo heddiw ac mae'n galw am ymateb gan Lywodraeth Cymru i'r Cynulliad hwn cyn i ni glywed ymateb manylach o’r tu allan.
Yn ail, ar thema yr ydym wedi clywed llawer amdani heddiw, galwaf am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ei chynigion, wrth i ni edrych i’r dyfodol, ar gyfer deddfwriaeth awtistiaeth. Rwyf wedi clywed, ers y bleidlais yr wythnos diwethaf, adroddiadau trallodus am bobl sydd wedi hunan-niweidio. Mae llythyr i’r Senedd gan yr Autistic Women’s Empowerment Project, sy'n dweud:
Yr wythnos hon gwnaeth y Cynulliad, adeilad gwydr hardd, lluniaidd, bleidleisio yn erbyn Deddf Awtistiaeth i Gymru. 24 i 27. Mor agos. Cyn lleied o feddyliau i’w newid i newid fy myd, ond newid, ni wnaethant. Pam, pam y byddai angen y fath beth arnom ni? Deddf unswydd ar gyfer awtistiaeth? Deddf awtistiaeth? Deddfu awtistiaeth? Oherwydd fi. Oherwydd pobl fel fi. Oherwydd fy nghymuned awtistig, fy mhobl a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Oherwydd ei bod yn bwysig.
Mae hi'n dod i'r casgliad:
Cymru, rwy’n dy garu di. Rwy’n dotio arnat ti. Dy bobl, dy wyrddni, dy fynyddoedd, dy gymoedd. Ti yn unig a ŵyr am fy hiraeth pan nad ydw i yma. Rwyt ti’n wald o bant a bryn rhagorach na’r un man arall. Nid oes unman cynhesach na mwy caredig. Ond rwyt ti wedi fy siomi i. Rwyt ti’n fy siomi i bob dydd. Ac mae dy angen di arnom ni.
Wel, clywsom yn gynharach gan y Prif Weinidog fod y cytundeb â Phlaid Cymru yn cynnwys sylfaen statudol ar gyfer y newidiadau deddfwriaethol a gweithdrefnol eraill y mae Llywodraeth Cymru yn eu gweithredu. Dywedodd y Gweinidog, nad oedd y bobl y siaradodd â nhw yn y gymuned awtistiaeth yn gwybod beth fyddai deddfwriaeth yn ei wneud, ond nid dyna beth y mae’r nifer llethol o bobl yn y gogledd, y de a'r canolbarth wedi dweud wrthym ers blynyddoedd, ac mor ddiweddar â nos Wener ddiwethaf yn Wrecsam, mor ddiweddar â dydd Sul diwethaf yn Nhowyn a Bae Cinmel. Gwyddom beth mae hyn yn ymwneud ag ef. Gwyddom y dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn monitro gweithrediad ei strategaeth ar ei newydd wedd a’i chynllun a’i deddfwriaeth genedlaethol, ond mae angen sicrwydd ar bobl ar y sbectrwm awtistiaeth. Felly, pryd y byddwch chi’n cynnal yr adolygiadau cychwynnol? Sut y byddwch chi’n adrodd ar hynny, a sut y byddwch chi’n sicrhau y bydd y ddeddfwriaeth honno a’r sail statudol honno yn cael eu dwyn ymlaen ar y cyfle cynharaf posibl?
O ran eich pwynt cyntaf, wrth gwrs, mae diogelwch cymunedol yng Nghymru yn hollbwysig, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymateb a bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf fel y bo'n briodol am y trefniadau presennol o ran Cymunedau Diogelach, sydd, wrth gwrs, wedi gwneud gwaith da o ran partneriaethau lleol. Clywsoch yn helaeth gan y Prif Weinidog y prynhawn yma am ein dull a'n hymrwymiad, ac yn wir y ffyrdd yr ydym yn—. Yn wir, clywsoch chi hefyd gan y Gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol am y ffordd y mae'n gweithio gyda'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, gan weithio mewn gwirionedd â dyddiad arall wedi ei drefnu i edrych ar eu cynigion ac i edrych ar ble yr ydym yn cyflawni o ran ystod o wasanaethau i gefnogi pobl, teuluoedd, plant a phobl ifanc ac oedolion ag awtistiaeth. Rwyf i’n credu, unwaith eto, y byddai'n ddefnyddiol pe bawn i, unwaith eto, yn darllen detholiad o ddatganiad y Prif Weinidog i’r Cyfarfod Llawn ar y rhaglen ddeddfwriaethol ar 28 Mehefin. Yn wir, yr oedd hynny mewn ymateb i gwestiwn a ofynnwyd i'r Prif Weinidog gan Simon Thomas, a dywedodd:
‘I ddechrau gydag awtistiaeth, mae hwn yn rhywbeth, wrth gwrs, sy’n cael ei ystyried ar hyn o bryd gan y pwyllgor cydweithio’— clywsom am hynny y prynhawn yma—
‘ynglŷn â gweld ym mha ffordd y gallwn ni ddatblygu deddfwriaeth ar awtistiaeth, yn enwedig a oes yna fodd i sicrhau bod y cynllun gweithredol yn cael ei gryfhau trwy ddod yn statudol yn y pen draw. Mae hwn yn rhywbeth yr ymdrinnir ag ef trwy’r broses honno.’
Felly, credaf ein bod ni, y prynhawn yma, wedi ymateb i'r pwyntiau hynny, ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn y Siambr hon, yn cyfarfod, fel yr ydym, â’n hetholwyr a’r grwpiau lleol hynny sydd yn codi materion hyn.
Diolch i’r Gweindog.