Part of the debate – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 18 Hydref 2016.
Arweinydd y tŷ, a gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw, os gwelwch yn dda? Un gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar fynegai yr UE o gynnydd cymdeithasol rhanbarthol—astudiaeth a restrodd Cymru yr isaf o blith gwledydd cartref y DU o ran cael gafael ar wybodaeth sylfaenol, ac, wrth gwrs, mae hynny wedi arwain at bryderon sylweddol ymhlith rhieni yn arbennig, ac mae’n ergyd arall i’w hyder yn ein system addysg. Tybed a hoffai Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ymateb i’r astudiaeth benodol honno a rhoi hwb i hyder y bobl yng Nghymru yn ein system addysg.
Ac, yn ail, fel hyrwyddwr rhywogaethau y wiwer goch, roeddwn i’n bryderus iawn o glywed am farwolaeth nifer o wiwerod coch ar Ynys Môn heddiw, o bosibl o ganlyniad i feirws. Tybed a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi poblogaethau gwiwerod coch mewn rhannau eraill o Gymru ac i fonitro pa mor agored y maen nhw o bosibl i feirysau o'r fath, yn enwedig mewn lleoedd megis Coedwig Clocaenog yn fy etholaeth fy hun? Diolch.