Part of the debate – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 18 Hydref 2016.
Diolch i chi, David Rees, am y cwestiynau hynny. Rwy'n falch eich bod wedi rhoi cyfle i ni, unwaith eto, fel Llywodraeth Cymru, i’w gwneud yn glir iawn bod Llywodraeth Cymru yn parhau i wrthwynebu ffracio. Mae'r cyfarwyddiadau hysbysu cynllunio yr ydym wedi eu cyhoeddi yn atal awdurdodau cynllunio lleol rhag rhoi caniatâd i ddatblygiadau nwy anghonfensiynol er mwyn nwyeiddio glo tanddaearol, ac mae hyn, wrth gwrs, yn dilyn polisi cynllunio cenedlaethol cyfredol, gan nodi effeithiau amgylcheddol y mae'n rhaid rhoi sylw iddyn nhw o ran unrhyw ddatblygiad arfaethedig nad yw'n effeithio ar yr amgylchedd, cymunedau neu gymdeithas ehangach. Ond, rwy'n credu, hefyd, mae eglurhad y polisi gan y cyn Weinidog, a'r Gweinidog cyfredol bellach, wrth gwrs, o ran cyfrifoldeb Ysgrifennydd y Cabinet-. Cyhoeddwyd hynny ym mis Gorffennaf 2014, ac mae'n tynnu sylw at yr ystyriaethau hyn a’u pwysleisio o’r newydd.
O ran eich ail bwynt, rydym eisoes wedi crybwyll hyn y prynhawn yma mewn ymateb i’r cwestiynau i'r Prif Weinidog. Ac, yn amlwg, mae hyn yn enghraifft dda iawn, onid yw, o allu’r gymuned i gydweithio? Mae'n dda clywed y bu Dr Brian Gibbons yn rhan o hynny—cyn Aelod o'r Cynulliad hwn—a bod y pwll nofio yn y Cymer yn mynd i allu cael ei ddefnyddio gan y gymuned leol bellach. Mae ffyrdd y gall llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru gynghori, ac, wrth gwrs, mae'n ymwneud â sicrhau y gwarentir yr ymatebion mwyaf addas, nid yn unig o ran cymorth grant, ond o ran atebolrwydd i lywodraeth leol, i gyrff cyhoeddus eraill.