Part of the debate – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 18 Hydref 2016.
A gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Yn gyntaf, ar ddiogelwch cymunedol yng Nghymru, yn dilyn yr adroddiad o'r un enw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, a lansiwyd heddiw. Mae hyn yn dweud, ac mae yn llygad ei le:
‘Mae diogelwch cymunedol yn ymwneud ag ymdeimlad pobl o ddiogelwch personol a pha mor ddiogel y maent yn ei deimlo mewn cysylltiad â’r lle y maent yn byw, yn gweithio ac yn treulio eu hamser rhydd ynddo.’
Ond mae'n mynd ymlaen i ddweud:
‘Nid oes gan Lywodraeth Cymru strategaeth unigol ar gyfer diogelwch cymunedol ac mae wedi canolbwyntio ei gweithgareddau ar gyflenwi’r Rhaglen Lywodraethu. Er bod gan bob awdurdod lleol a’r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu gynlluniau, nid ydynt wedi’u halinio’n gyson i sicrhau’r defnydd gorau o adnoddau a’r effaith fwyaf bosibl, ac nid yw’r flaenoriaeth genedlaethol, ranbarthol a lleol yr un peth mewn unrhyw faes. Mae cynllunio datgymalog a chydgysylltu gwael yn esgor ar y perygl y bydd sefydliadau naill ai’n dyblygu gweithgarwch, neu’r perygl na fydd yr un ohonynt yn canolbwyntio ar y materion pwysicaf.’
Ac maent yn argymell eich bod chi, gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu ac awdurdodau lleol, yn
‘gwella gwaith strategol â phartneriaid drwy fynd ati’n ffurfiol i greu byrddau diogelwch cymunedol effeithiol’ yn lle'r mecanwaith presennol. Mae hyn yn amlwg yn bwysig. Rhoddwyd, yn gywir, sylw helaeth iddo heddiw ac mae'n galw am ymateb gan Lywodraeth Cymru i'r Cynulliad hwn cyn i ni glywed ymateb manylach o’r tu allan.
Yn ail, ar thema yr ydym wedi clywed llawer amdani heddiw, galwaf am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ei chynigion, wrth i ni edrych i’r dyfodol, ar gyfer deddfwriaeth awtistiaeth. Rwyf wedi clywed, ers y bleidlais yr wythnos diwethaf, adroddiadau trallodus am bobl sydd wedi hunan-niweidio. Mae llythyr i’r Senedd gan yr Autistic Women’s Empowerment Project, sy'n dweud:
Yr wythnos hon gwnaeth y Cynulliad, adeilad gwydr hardd, lluniaidd, bleidleisio yn erbyn Deddf Awtistiaeth i Gymru. 24 i 27. Mor agos. Cyn lleied o feddyliau i’w newid i newid fy myd, ond newid, ni wnaethant. Pam, pam y byddai angen y fath beth arnom ni? Deddf unswydd ar gyfer awtistiaeth? Deddf awtistiaeth? Deddfu awtistiaeth? Oherwydd fi. Oherwydd pobl fel fi. Oherwydd fy nghymuned awtistig, fy mhobl a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Oherwydd ei bod yn bwysig.
Mae hi'n dod i'r casgliad:
Cymru, rwy’n dy garu di. Rwy’n dotio arnat ti. Dy bobl, dy wyrddni, dy fynyddoedd, dy gymoedd. Ti yn unig a ŵyr am fy hiraeth pan nad ydw i yma. Rwyt ti’n wald o bant a bryn rhagorach na’r un man arall. Nid oes unman cynhesach na mwy caredig. Ond rwyt ti wedi fy siomi i. Rwyt ti’n fy siomi i bob dydd. Ac mae dy angen di arnom ni.
Wel, clywsom yn gynharach gan y Prif Weinidog fod y cytundeb â Phlaid Cymru yn cynnwys sylfaen statudol ar gyfer y newidiadau deddfwriaethol a gweithdrefnol eraill y mae Llywodraeth Cymru yn eu gweithredu. Dywedodd y Gweinidog, nad oedd y bobl y siaradodd â nhw yn y gymuned awtistiaeth yn gwybod beth fyddai deddfwriaeth yn ei wneud, ond nid dyna beth y mae’r nifer llethol o bobl yn y gogledd, y de a'r canolbarth wedi dweud wrthym ers blynyddoedd, ac mor ddiweddar â nos Wener ddiwethaf yn Wrecsam, mor ddiweddar â dydd Sul diwethaf yn Nhowyn a Bae Cinmel. Gwyddom beth mae hyn yn ymwneud ag ef. Gwyddom y dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn monitro gweithrediad ei strategaeth ar ei newydd wedd a’i chynllun a’i deddfwriaeth genedlaethol, ond mae angen sicrwydd ar bobl ar y sbectrwm awtistiaeth. Felly, pryd y byddwch chi’n cynnal yr adolygiadau cychwynnol? Sut y byddwch chi’n adrodd ar hynny, a sut y byddwch chi’n sicrhau y bydd y ddeddfwriaeth honno a’r sail statudol honno yn cael eu dwyn ymlaen ar y cyfle cynharaf posibl?