Part of the debate – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 18 Hydref 2016.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw ac am ei alwad ffôn yn gynharach, yn rhoi prif ffigurau cyllideb ddrafft heddiw i mi ymlaen llaw? Rwy’n deall ei resymeg wrth bennu cyllideb refeniw un flwyddyn a chyllideb gyfalaf dros bedair blynedd, ond rwy'n siŵr na fydd yn syndod i Ysgrifennydd y Cabinet na allwn ni ar yr ochr hon i'r Siambr gefnogi'r gyllideb ddrafft hon yn ei ffurf bresennol. Unwaith eto, mae Plaid Cymru wedi gwneud pob ymdrech i ddod i gytundeb â Llywodraeth Cymru a’i chefnogi doed a ddelo. Er bod rhai cyhoeddiadau sydd i'w croesawu yn y datganiad hwn, mae cymunedau ledled Cymru yn dal wedi eu gadael ar ôl.
Wrth gwrs, rwy’n dymuno o ddifrif y bydd y gyllideb ddrafft hon yn cyflawni i gymunedau Cymru lle y mae cymaint o rai eraill wedi methu o’r blaen, ond maddeuwch i mi am fod braidd yn amheus, o gofio bod y canlyniadau mewn cynifer o feysydd o fywyd cyhoeddus yn dal i fod mor annigonol. Wrth i ni symud i gam nesaf y pumed Cynulliad, mae ein gwlad yn parhau i gael ei thagu gan economi sy'n tanberfformio, sy'n gweld teuluoedd yng Nghymru yn ennill y cyflogau isaf ym Mhrydain—ac mae hyn yn ôl dadansoddiad ystadegol Llywodraeth Cymru ei hun. Yr wythnos diwethaf, gosodwyd system addysg Cymru ar waelod tabl cynghrair y DU gan astudiaeth mynegai cynnydd cymdeithasol rhanbarthol yr UE—ac nid dyna’r astudiaeth gyntaf i wneud hynny. Mae iechyd y cyhoedd, hefyd, yn parhau i fod yn bryder mawr. Amlygodd arolwg iechyd Cymru fod lefelau gordewdra yn cynyddu ac mae nifer yr achosion o ddiabetes wedi mwy na dyblu er 1996. Mae'r materion hyn, yn ystyfnig, yn dal i fodoli.
Wrth symud ymlaen, mae'n hanfodol bod pob punt a warir gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei gwario'n effeithiol, gan sicrhau gwerth am arian i drethdalwyr Cymru a phwyslais o'r newydd ar ganlyniadau. Nid oes neb yn gwadu ein bod wedi bod drwy gyfnod economaidd anodd ac mae Llywodraeth y DU wedi gorfod cymryd penderfyniadau economaidd caled i gael yr economi yn ôl ar y trywydd iawn. Wrth gwrs, ar yr un pryd, mae pleidlais y refferendwm i adael yr UE yn codi cyfres gyfan o gwestiynau ynglŷn â chynllunio cyllidebau yn y dyfodol. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa effaith y mae canlyniad refferendwm yr UE wedi ei gael ar brosesau cynllunio cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y pumed Cynulliad a pha waith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ers canlyniad y refferendwm o ran ei phrosesau cyllidebol a’i rhagolygon economaidd cyn i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd?
Nawr, gan droi at rai o'r prif ffigurau o gyhoeddiad heddiw, wrth gwrs, rwy’n croesawu'r arian ychwanegol sydd wedi ei neilltuo i'r gyllideb iechyd, ac rwy’n mawr obeithio y bydd hyn yn mynd ran o’r ffordd i fynd i’r afael â’r materion gwirioneddol sy'n wynebu ein GIG. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cofio yr anhawster o ddarparu gwasanaethau iechyd mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru o'i gyfnod o fod yn Weinidog iechyd, ac felly efallai y gwnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym sut y bydd cyllideb heddiw yn tynnu’n ôl ar y canoli gwasanaethau yr ydym wedi ei weld yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac yn llenwi’r bylchau mewn darpariaeth sy’n bodoli mewn rhannau o’r gorllewin, y canolbarth ac, yn wir, y gogledd. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau mewn gwirionedd ar gyfer y cofnod y prynhawn yma, yn wyneb yr adroddiadau niferus yn beirniadu cyllid GIG Cymru, ei fod bellach yn gwbl ffyddiog bod y gyllideb ddrafft hon yn fforddiadwy ac y bydd yn cefnogi’r GIG yng Nghymru mewn modd digonol?
Fel y gwyddom, mae costau uwch i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig, ac felly mae'n bwysig bod yr ardaloedd hyn yn cael eu blaenoriaethu'n ddigonol mewn unrhyw gyllideb Llywodraeth Cymru. Rwy'n deall y bydd llywodraeth leol yn cael setliad arian gwastad yn y gyllideb ddrafft hon, ond, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym heddiw sut y bydd yr arian hwn yn cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol ac a fydd awdurdodau gwledig yn cael eu blaenoriaethu, o gofio eu bod wedi dioddef sawl toriad sylweddol yn y gorffennol? Mae’n rhaid cydnabod yr heriau y mae awdurdodau gwledig yn eu hwynebu yn y gyllideb hon, ac rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn darparu mwy o fanylion ynglŷn â sut y bydd y gyllideb hon yn mynd i'r afael yn benodol â'r heriau y mae awdurdodau lleol gwledig yn eu hwynebu.
Mae datganiad heddiw yn cynnwys £30 miliwn yn ychwanegol ar gyfer addysg uwch ac addysg bellach, sydd yn sicr i'w groesawu. Rwy'n siŵr bod yr holl Aelodau yn y Siambr hon eisiau gweld system addysg gref yng Nghymru sy’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Nawr, rwy’n gwerthfawrogi nad yw’n bosibl i’r £30 miliwn ateb pob un o broblemau Cymru o ran addysg uwch ac addysg bellach, ond gallai’r arian hwn wneud gwahaniaeth mewn gwirionedd. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau pa gynigion newydd fydd yn cael eu rhoi ar waith gyda’r arian ychwanegol hwn a sut y bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio i gau'r bwlch cyllido rhwng addysg uwch yng Nghymru ac yn Lloegr? O ran colegau addysg bellach, a all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau sut y bydd yr arian ychwanegol hwn yn cael ei ddyrannu i golegau a pha feini prawf y bydd yn rhaid i'r colegau eu bodloni i gael unrhyw gyllid ychwanegol?
Lywydd, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod unrhyw wariant drwy'r Cynulliad hwn yn effeithiol a’i fod yn cyflawni gwelliannau gwirioneddol i wasanaethau rheng flaen allweddol ar gyfer pobl Cymru. Roeddwn yn siomedig dros ben, fel llawer yn y Siambr hon, yn rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru, gan nad yw'n rhoi’r hyder na’r manylder sydd ei angen i wella cyfleoedd bywyd pobl mewn cymunedau ledled Cymru. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym sut y bydd y Llywodraeth yn profi canlyniadau unrhyw gyllideb yn y Cynulliad hwn, mewn gwirionedd, os nad oes unrhyw dargedau ar gyfer cymharu yn eu herbyn? Yn hollbwysig, sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau gwerth am arian ar draws meysydd portffolio pan mai dim ond ychydig iawn o fanylion sydd yn y rhaglen lywodraethu i fesur cynnydd ei chyllideb? Felly, wrth gloi, felly, Lywydd, a gaf i ddiolch unwaith eto i Ysgrifennydd y Cabinet am ddatganiad heddiw? Mae fy nghydweithwyr a minnau yn edrych ymlaen at graffu ar y gyllideb ddrafft ymhellach yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf. Diolch.