4. 3. Datganiad: Cyllideb Ddrafft 2017-18

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 18 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:58, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i Paul Davies am ei gyfraniad. Rwy'n cymryd yn ganiataol, mewn gwirionedd, ein bod yn rhannu uchelgais ar draws y Cynulliad i sicrhau bod yr arian sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn cael ei wario'n effeithiol, ei fod yn creu gwelliannau gwirioneddol ym mywydau pobl a'n bod yn gwario'r arian sydd gennym yn y modd sy’n cael yr effaith fwyaf. Rwy'n edrych ymlaen at graffu’n fanwl ar y gyllideb o’i chymharu â’r meini prawf hynny a fydd yn dilyn datganiad heddiw.

Roedd cyfres o gwestiynau penodol yn yr hyn a oedd gan Paul Davies i’w ofyn, felly ceisiaf fynd i'r afael â’r rheini, Lywydd. Cyn belled ag y mae effaith y refferendwm yn y cwestiwn, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu dull deuol i geisio ymateb i hynny. Mae’r effeithiau uniongyrchol o ran y cyllid sy'n dod o Ewrop i Gymru, a’n galwadau dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i wneud yn siŵr y dylai pob ceiniog a ddaw o'r Undeb Ewropeaidd i Gymru fod wedi dwyn peth ffrwyth yn y ddau ddatganiad a wnaed gan Ganghellor y Trysorlys, gan roi rhywfaint o sicrwydd ynghylch y cyllid hwnnw i Gymru. Rwy'n falch o weld hynny ac rwy’n gobeithio gweld mwy o hynny yn y dyfodol. Yr her yn y tymor hwy i Lywodraeth y DU, ac yna i Gymru, fydd yr effaith hirdymor ar economi'r DU yn dilyn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n gwbl amhosibl i ni wneud asesiad dibynadwy o hynny yng Nghymru pan fo gennym gymaint o ddiffyg eglurder o ran Llywodraeth y DU ynglŷn â’r telerau gadael y maent yn ceisio eu sicrhau. Byddwn yn parhau i bwyso arnynt i ddod i gytundeb â'r Undeb Ewropeaidd a fydd yn cymryd sylw llawn o fuddiannau Cymru, gan gynnwys mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad rydd.

Gofynnodd Mr Davies gwestiynau am y gyllideb iechyd i mi. Bydd y buddsoddiad ychwanegol yr ydym yn ei roi i’r gyllideb iechyd yn y gyllideb ddrafft hon yn ddigonol i fodloni bwlch Nuffield. Bydd yn parhau ein polisïau o symud gofal o ofal eilaidd i ofal sylfaenol, bydd yn caniatáu i'r gwasanaeth iechyd fynd ati i wneud y gwaith rhyfeddol sydd wedi digwydd yng Nghymru yn y cyfnod diweddar wrth gynyddu'r gyfran o wasanaethau salwch cronig sy'n cael eu darparu y tu allan i'r ysbyty—un o'r rhesymau pam y mae adroddiad Nuffield a'i olynwyr wedi dod i'r casgliad bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn parhau i fod yn fforddiadwy yn y dyfodol, ar yr amod—a dyma'r pwynt allweddol mewn gwirionedd, Lywydd, y bydd Aelodau ar ochr y Ceidwadwyr eisiau ei glywed—bod gwasanaethau cyhoeddus, yn y dyfodol, yn cael cyfran deg o'r twf yn yr economi. Nid yw lywodraeth leol, yn y gyllideb arfaethedig hon, a hynny am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer, wedi cael unrhyw doriadau o gwbl yn yr arian sydd ar gael iddi. Rwy'n ofni y bydd yn rhaid i'r Aelod aros tan yfory, pan fyddaf yn cyflwyno’r setliad arfaethedig ar gyfer llywodraeth leol, i weld sut y mae hynny'n effeithio ar awdurdodau unigol.

Roeddwn yn ddiolchgar am yr hyn a ddywedodd am bwysigrwydd addysg bellach ac addysg uwch. Bydd y £30 miliwn ychwanegol yr ydym wedi gallu dod o hyd iddo ar gyfer Addysg Uwch ac Addysg Bellach yn cael ei defnyddio gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a bydd hi’n gwneud hynny mewn modd sy'n gyson â'n huchelgeisiau ar gyfer gweithredu adolygiad Diamond.