Part of the debate – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 18 Hydref 2016.
Rydym yn edrych ymlaen at yr arian ychwanegol o Frwsel, a fydd yn rhoi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU mewn sefyllfa dda maes o law, ar ôl i ni adael.
Y datganiad Plaid Cymru a gawsom yn gynharach gan Adam Price—rwy’n credu iddo ddweud bryd hynny ‘y byddwn yn cyflawni gyda'n gilydd’, ac rwy’n credu iddo gael ei ddyfynnu yn y cyfryngau yn gynharach gan ddweud y byddai amseroedd aros yn y GIG yn cael eu lleihau oherwydd yr ymyrraeth hon gan Blaid Cymru. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym i ba raddau yr ydym i ddwyn Plaid Cymru i gyfrif am ei swyddogaeth wrth gyflawni’r gostyngiad hwn mewn amseroedd aros, neu a yw'n rhywbeth y mae ef yn parhau i gymryd y cyfrifoldeb llwyr drosto ei hun a chyda’r Llywodraeth Cymru ffurfiol?
Y tu hwnt i’r maes iechyd, lle’r wyf yn credu bod cynnydd i’w groesawu, rydym yn nodi bod llywodraeth leol yn cael cynnydd o 3.1 y cant, sy’n gyfalaf bron i gyd, rwy’n credu—£123 miliwn—ac rwy’n credu bod hynny i'w groesawu. Fodd bynnag, cefais lythyr ar ddechrau'r eleni yr oeddwn yn ei groesawu'n fawr gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dweud wrthyf, mewn gwirionedd, nad oeddent yn mynd i gynyddu fy nhreth gyngor wedi'r cyfan, oherwydd bod y setliad grant wedi bod yn fwy hael nag yr oeddynt wedi’i ragweld. Eleni, rydym yn clywed bod £25 miliwn arall diolch i Blaid Cymru, ac rydym yn cael gwybod hefyd, am y flwyddyn gyntaf mewn pedair, y bydd cynnydd yn y grant heb ei neilltuo. A allwn ni fforddio hyn i gyd? Rwy'n siŵr bod croeso mawr i hyn gan gynghorwyr Llafur a Phlaid Cymru sy’n sefyll i gael eu hail-ethol fis Mai nesaf, ond o ystyried yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddweud am y pwysau cyffredinol, onid y risg yw y bydd toriadau sylweddol iawn yn dilyn yr etholiadau hynny, ac o gofio haelioni cymharol y setliadau gwario ers i’r cyni ddechrau yn 2010 i Gymru ym maes llywodraeth leol, yn sicr o'i gymharu â Lloegr? Nid wyf yn awgrymu o gwbl ein bod yn ailadrodd y toriadau a wneir yno. Yn sicr, mae’r cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a’r integreiddio gyda'r GIG i’w groesawu. Ond a yw’r Gweinidog yn gallu parhau i ddiogelu llywodraeth leol i'r graddau y mae’n ei ddweud yn y gyllideb hon?
Y £30 miliwn ychwanegol ar gyfer addysg uwch ac addysg bellach—rydym yn cefnogi rhai o'r ychwanegiadau addysg bellach hynny. Mae'r arian ychwanegol ar gyfer addysg uwch, dywedir wrthym, ar gyfer y pontio i'r trefniadau cymorth i fyfyrwyr newydd, y dywedwyd wrthym eu bod yn mynd i fod yn niwtral o ran cost, neu, yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr, yn arbediad o £48 miliwn. A all y Gweinidog gadarnhau pa mor niwtral o ran cost neu fel arall y bydd y newidiadau hyn, ac a yw ef, o ystyried ei hanes hir o wleidyddiaeth adain chwith flaengar, yn ystyried bod y rhoddion hyn o grantiau prawf modd i deuluoedd sy'n ennill rhwng £50,000 ac £81,000 yn flaenoriaeth iddo ef, gan gynnwys hefyd y £1,000 ar gyfer teuluoedd sy'n ennill hyd yn oed mwy na hynny? A yw'n bosibl y gallem chwilio am rai arbedion yn y maes hwn o ystyried y newidiadau eraill a'r pwysau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei nodi yn ei gyllideb?
O ran trafnidiaeth, rydym yn croesawu'r astudiaeth i'r llwybr rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth, ac o bosibl ailagor hwnnw, er am £300,000 nid ydym yn hollol siŵr, o ystyried yr heriau, faint y mae hwnnw yn mynd i arwain ato. Ond rydym yn ei groesawu yn gyffredinol. Roedd hyn yn ein maniffesto yn ogystal ag ym maniffesto Plaid Cymru. Rydym yn nodi bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi neilltuo mwy na £900 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn ar gyfer ffordd liniaru ar gyfer yr M4. A yw hynny'n ddigon o ystyried yr amcangyfrifon o gostau yr ydym bellach yn eu cael ar gyfer y llwybr du hwnnw? Dywedodd yr Athro Stuart Cole wrthyf yr wythnos cyn diwethaf ei fod bellach o’r farn y byddai’n costio o leiaf £1.2 biliwn, o’i gymharu â dim ond £0.5 biliwn ar gyfer ei lwybr glas neu £0.6 biliwn gyda’r ail gymal i fyny at yr A449.
Yn olaf gennyf i, hoffwn gyfeirio at bontydd Hafren a'r trefniadau codi tollau. Roedd cytundeb Dydd Gŵyl Dewi yn dweud y byddai hynny’n fater i'w gytuno rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraethau Cymru. Nid yw'n ymddangos bod llawer o gytundeb, fodd bynnag, gyda’r dreth barhaus hon y mae Llywodraeth y DU yn mynd i roi ar y tollau ar ôl yr adeg y dylent gael eu diddymu oddeutu blwyddyn i nawr. A fydd hynny’n parhau ar ôl i’r ddyled honedig gael ei thalu, neu a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn edrych ymlaen gyda mi at rywbeth yn y gyllideb y flwyddyn nesaf i wneud cyfraniad tuag at gynnal a chadw er mwyn i’r tollau ar y pontydd hynny allu cael eu dileu?