4. 3. Datganiad: Cyllideb Ddrafft 2017-18

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 18 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:18, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i Mark Reckless am y rhannau hynny o'r gyllideb y gwnaeth gydnabod bod croeso iddynt. Ceisiaf fynd i'r afael â’i gwestiynau penodol.

O ran y cyllid iechyd meddwl sy'n rhan o'r £240 miliwn, mae'r £15 miliwn ar gyfer diagnosteg yn rhan o'r rhaglen gyfalaf a ddarparwyd i'r prif grŵp gwariant iechyd, ac, wrth gwrs, yn sgil y buddsoddiad hwnnw, bydd yr amseroedd aros ar gyfer diagnosteg yn parhau i ostwng ymhellach eto.

Mae'r £7 miliwn ar gyfer hyfforddiant yn ychwanegol at y £240 miliwn, ac yn sicr, ni ddylid ystyried yr £1 filiwn ar gyfer gofal diwedd oes yn biso dryw yn y môr. O ran y sector hosbis yng Nghymru, mae hwnnw'n fuddsoddiad sylweddol iawn ac rwy’n gwybod y bydd croeso mawr iawn iddo gan wasanaeth sydd y gorau yn y Deyrnas Unedig gyfan.

Cyn belled ag y mae llywodraeth leol yn y cwestiwn, rwy’n falch iawn o fod wedi gallu darparu cyllideb heb dorri unrhyw arian i lywodraeth leol eleni, ond gadewch i mi ddweud yr hyn yr wyf eisoes wedi ei ddweud wrth lywodraeth leol: mae cyfnodau anoddach a dewisiadau anoddach o'n blaenau. Mae'r gyllideb a addewir i ni gan Lywodraeth y DU yn parhau i dorri’r adnoddau sydd ar gael i’r lle hwn, flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn. Nid oes unman lle y gall unrhyw un leddfu’r pwysau hwnnw. Yn anochel, mae’n siŵr o gael effaith ar ein partneriaid cyflenwi. Roeddwn yn awyddus i ddarparu cyfnod o 18 mis o sefydlogrwydd ar gyfer y gwasanaethau allweddol hynny, ac mae angen iddynt ddefnyddio'r amser hwnnw i baratoi ar gyfer y dewisiadau sydd o'n blaenau.

Cyn belled ag y mae addysg yn y cwestiwn, rwy’n hapus iawn i ddarparu copi o fy nhaflen ar gyffredinoliaeth flaengar— [Chwerthin.]—ac rwy'n siŵr y byddai'r Aelod yn ei mwynhau. Mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i ddarparu gwasanaethau y mae gan ein holl ddinasyddion fudd ynddynt. Dyna sut yr ydych chi’n cael y gwasanaethau gorau. Ni fyddai defnyddio prawf modd fel y mae ei blaid ef mynnu ei wneud ond yn mynd yn ôl at yr hen ddywediad hwnnw bod gwasanaethau sy'n cael eu cadw ar gyfer pobl dlawd yn fuan iawn yn dod yn wasanaethau tlawd/gwael. Y rheswm pam y mae gwasanaethau yn parhau i fod o'r safon y maen nhw mewn cymdeithas waraidd yw ein bod yn gwneud yn siŵr bod gan bawb—y bobl hyddysg yn ogystal â'r rhai sy'n ymgodymu, y bobl huawdl yn ogystal â'r rhai anhuawdl—eu rhan mewn gwneud y gwasanaethau hynny mor dda â phosibl. Dyna'r math o wasanaeth addysg yr ydym eisiau ei weld yma yng Nghymru.

Cyn belled ag y mae ffordd liniaru'r M4 yn y cwestiwn, rwyf wedi cynllunio’r gyllideb yn ofalus iawn fel bod y gwariant sydd ei angen ar Ysgrifennydd y Cabinet sydd â’r cyfrifoldeb y flwyddyn nesaf at ddibenion yr M4, ar gael yn uniongyrchol iddo yn ei bortffolio, ond bod gweddill y gwariant ar gyfer yr M4 yn cael ei gadw mewn cronfeydd wrth gefn fel ein bod yn rhoi parch priodol i'r ymchwiliad cyhoeddus annibynnol sydd i’w gynnal. Byddwn yn gwybod, pan fydd yr ymchwiliad hwnnw wedi dod i ben, pa lefel o gyllid fydd angen ei sicrhau ar gyfer y dibenion hynny. Diolch byth, Ddirprwy Lywydd, nid wyf wedi gorfod mynd i'r afael â mater y tollau ar bontydd Hafren at ddibenion cyllideb y flwyddyn nesaf.