4. 3. Datganiad: Cyllideb Ddrafft 2017-18

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 18 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 3:22, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddweud bod yr hyn y mae’r Gweinidog wedi’i gytuno gyda Phlaid Cymru yn cynnwys llawer o’r materion y byddwn i, mewn gwirionedd, wedi bod yn gofyn iddo amdanynt, pe na byddai wedi gwneud hynny?

Polisi gwleidyddol yw cyni i'r Torïaid ac nid un economaidd. Mae'n ymwneud â chrebachu’r wladwriaeth. Mae'n cael effaith ddifrifol ar wasanaethau cyhoeddus. Mae gennyf dri chwestiwn. O ran iechyd, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau bod y gyllideb iechyd, lles a chwaraeon bellach yn cynnwys dros 50 y cant o wariant a reolir a’i bod ychydig llai na hanner cyfanswm yr adnoddau a chyfalaf?

Ar lywodraeth leol, sy'n bwysig iawn i bobl Cymru, yn enwedig cymorth ar gyfer iechyd—mae pethau fel casglu sbwriel, gwasanaethau cymdeithasol, cyfleusterau hamdden, iechyd yr amgylchedd a thai i gyd yn chwarae rhan bwysig o ran cadw pobl yn iach—mae’r pwysau ar wasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau plant ac oedolion, yn aruthrol, a, byddwn i’n dweud, yn llawer mwy na'r pwysau ar iechyd. Rydym wedi trafod pwysigrwydd addysg yn gynharach. Pa wybodaeth sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet am y pwysau ar wariant llywodraeth leol?

Y trydydd cwestiwn yw—cawsom ddatganiad am Gymunedau yn Gyntaf yr wythnos diwethaf, a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu dweud wrthym beth sy'n cael ei dorri o'r gyllideb o ran darpariaeth? Os na fydd Cymunedau yn Gyntaf yn bodoli yn y ddarpariaeth, beth sy'n mynd i ddigwydd i rai o'r cynlluniau sy'n cael eu cefnogi gan Cymunedau yn Gyntaf ar hyn o bryd? A fyddant yn bodoli mewn ffurf arall, neu a fyddant yn diflannu?