4. 3. Datganiad: Cyllideb Ddrafft 2017-18

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 18 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:24, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Fel arfer, mae'n bosibl gwneud y syms mewn sawl ffordd wahanol. Fel y dywedodd Mike Hedges, mae cyfrifoldebau fy nghydweithiwr Vaughan Gething bellach yn cynnwys chwaraeon yn ogystal â'r gwasanaeth iechyd. Yr amcangyfrif gorau sydd gennyf o gyfran y gwariant ar iechyd yng nghyllideb y flwyddyn nesaf yw y bydd yn parhau i fod yn is na 50 y cant o gyllideb y Cynulliad hwn.

Wrth gwrs, rwy’n cydnabod y pwysau sydd ar wasanaethau cymdeithasol. Yn bersonol, nid wyf o’r farn mai’r ffordd orau o ystyried y pethau hyn yw ystyried bod iechyd a gwasanaethau cymdeithasol rhywsut yn cystadlu â'i gilydd. Ein nod yw gwneud yn siŵr eu bod yn cydweithio cymaint â phosibl.

Rwy'n clywed am y pwysau ar lywodraeth leol yn rheolaidd iawn. Fel y gŵyr yr Aelodau, rwyf wedi ymweld â phob un o'r 22 awdurdod lleol yn y misoedd diwethaf, ac ni wnaeth yr un ohonynt golli’r cyfle i egluro wrthyf y pwysau sy'n eu hwynebu, ac mae’r negeseuon hynny yn dod i benllanw yn yr is-grŵp cyllid sydd gennym yma yn Llywodraeth Cymru, lle y mae gwleidyddion o lywodraeth leol ac arbenigwyr yn dod at ei gilydd i asesu'r pwysau hynny.

Cyn belled ag y mae Cymunedau yn Gyntaf yn y cwestiwn, fel y nododd Carl Sargeant yn glir yn ei ddatganiad yr wythnos diwethaf, nid cyfres o benderfyniadau a ysgogwyd gan y gyllideb yw’r rhain. Bydd ef wedi penderfynu dwyn ynghyd yn ei bortffolio cyfres o ffrydiau gwariant mewn cyllideb ataliol newydd, sydd yn cynnwys Cymunedau yn Gyntaf, ond hefyd Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf. Y polisi y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddilyn yw’r modd gorau o ddefnyddio’r adnoddau sydd gennym, yn hytrach na sut i'w lleihau.