Part of the debate – Senedd Cymru am 3:54 pm ar 18 Hydref 2016.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad, a dweud, mewn gwirionedd, fy mod yn credu bod angen rhoi mwy o barch i’r trafodaethau sydd wedi digwydd rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru, oherwydd mai’r compact yw'r hyn sydd mewn gwirionedd wedi cyflawni’r darn hwn o waith sy'n yn awr yn mynd yn ei flaen? Rwy'n credu ei fod yn ddarn sylweddol o waith y gallwn fod yn falch ohono.
O ran y comisiwn ei hun, wel, byddai'n annibynnol ac, fel y dywedais yn fy natganiad, bydd aelodau’r comisiwn yn cael eu penodi ar sail gwybodaeth a phrofiad arbenigol ac yn sicr nid yn rhinwedd unrhyw swydd sydd ganddynt. Rwy'n disgwyl i aelodau allu meddwl a gweithredu ar draws pob sector. Bydd angen iddynt fod yn greadigol a bydd angen iddynt fod yn gynhwysol wrth ddadansoddi anghenion yn y dyfodol a hefyd heriau’r polisi cyhoeddus o'n blaenau, megis datgarboneiddio.
Gwneir penodiadau drwy ymarfer penodiadau cyhoeddus agored, sydd, wrth gwrs, yn unol â'r cod ymarfer ar gyfer penodiadau gweinidogol i gyrff cyhoeddus. Bydd eithriad—ac mae hyn yn cydnabod pwynt arall a godwyd gan yr Aelod—cyn belled ag y mae gweithgarwch Llywodraeth y DU yn y cwestiwn a seilwaith ar draws y ffin. Bydd un eithriad, sef penodiad uniongyrchol aelod o gomisiwn seilwaith y DU, a fydd wedyn yn cydnabod natur drawsffiniol llawer o'n seilwaith, yn enwedig y seilwaith a fydd yn cael ei ddatblygu yn y degawdau i ddod, ac rwy’n meddwl, yn arbennig, y broses o gyflwyno metro’r gogledd-ddwyrain a hefyd rywfaint o'r seilwaith ffyrdd sy'n ymestyn o ganolbarth Cymru i mewn i ganolbarth Lloegr.
Cododd yr Aelod bwynt ynghylch benthyca a pham na fyddwn yn cynnwys o fewn cylch gorchwyl y comisiwn y gallu i fod yn gallu benthyg. Yn awr, mae hyn yn bennaf yn fater sydd wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar. Mae'n ddatblygiad diweddar, ond mae'n ymwneud â’r ffaith a fyddai benthyca yn eistedd ar neu oddi ar y fantolen. Mae'r ONS yn ystyried na all modelau dielw ddefnyddio cap elw ac eistedd oddi ar y fantolen. Rydym yn gwybod hynny oherwydd yn ddiweddar gwelwyd Llywodraeth yr Alban yn gwrthod cymhwyso’r model at brosiect cyfalaf ffordd osgoi Gorllewin Aberdeen. Mae hefyd, wrth gwrs, gwestiynau, yr wyf yn meddwl sydd wedi cael eu codi yn y Cyfarfodydd Llawn yn ddiweddar, am ein gallu i fod yn gallu ariannu benthyca, a fyddai'n sylweddol, a amcangyfrifir rhwng £600 miliwn a £700 miliwn bob blwyddyn. Wedi dweud hynny, ni ddylem golli golwg ar y ffaith bod angen i ni fod yn uchelgeisiol iawn cyn belled ag y mae ein gofynion seilwaith yn y cwestiwn, a dyna pam rwy'n benderfynol o fwrw ymlaen â rhaglen adeiladu seilwaith uchelgeisiol iawn.