– Senedd Cymru am 3:33 pm ar 18 Hydref 2016.
Symudwn ymlaen yn awr at yr eitem nesaf ar yr agenda, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ar y comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru, ac rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, Ken Skates.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Heddiw, rwy’n lansio ymgynghoriad ar gomisiwn seilwaith cenedlaethol i Gymru. Mae’r ddogfen gyflenwi hon gan y Llywodraeth, ‘Symud Cymru Ymlaen', yn nodi sut y byddwn yn gweithio i sicrhau mwy o swyddi a gwell swyddi drwy economi gryfach a thecach; gwella a diwygio ein gwasanaethau cyhoeddus; ac adeiladu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy. Nid yw ‘Symud Cymru Ymlaen' yn dal yn ôl. Rydym yn gwybod pa mor anodd fydd y pum mlynedd nesaf a pha mor heriol fydd ceisio creu’r lefel o sefydlogrwydd economaidd sydd ei angen ar gyfer lles ein pobl a'n cymunedau yn y tymor hir.
Un o elfennau sylfaenol gwella sefydlogrwydd economaidd yw ystod ac ansawdd seilwaith gwlad—y systemau a’r gwasanaethau ffisegol y mae angen inni eu rhoi ar waith er mwyn i Gymru weithio'n effeithiol. Rydym yn byw mewn cyfnod o ansicrwydd ariannol arbennig, sy'n golygu ei bod yn bwysicach fyth i ni weithredu nawr i gryfhau'r ffordd yr ydym yn ystyried ac yn blaenoriaethu anghenion seilwaith yn y dyfodol ac yn creu'r amodau ar gyfer buddsoddiad sefydlog, hirdymor.
Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i symud tuag at strategaeth fwy gwybodus, mwy hirdymor o fuddsoddi mewn seilwaith, sy'n ymgorffori egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd y dull hwnnw o weithredu, sydd wedi’i lywio’n well, yn golygu y gall prosiectau gael eu datblygu’n fwy effeithlon, gan y bydd eu pwysigrwydd a'u gwerth yn cael eu deall gan bobl Cymru. Felly, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo yn ‘Symud Cymru Ymlaen' i sefydlu comisiwn seilwaith cenedlaethol i Gymru, er mwyn rhoi cyngor annibynnol ac arbenigol i ni ar anghenion a blaenoriaethau seilwaith strategol.
Mae sefydlu comisiwn seilwaith cenedlaethol i Gymru hefyd yn adlewyrchu ein cytundebau â Phlaid Cymru, yn rhan o'r compact i symud Cymru ymlaen. Rydym yn bwriadu sefydlu comisiwn seilwaith cenedlaethol anstatudol ymgynghorol ar gyfer Cymru i roi cyngor strategol annibynnol ac arbenigol. Rydym yn cynnig bod y comisiwn yn dechrau fel corff ymgynghorol, sy'n gyfrifol am ddadansoddi, cynghori a gwneud argymhellion i'r Llywodraeth ar anghenion seilwaith Cymru yn y tymor hwy am y cyfnod o bump i 30 mlynedd nesaf.
Byddai cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau buddsoddi ar gyfer seilwaith sydd wedi'i ddatganoli yn aros gyda Gweinidogion Cymru, ac â Llywodraeth y DU ar gyfer seilwaith nad yw wedi’i ddatganoli. Byddai'r cynllun buddsoddi mewn seilwaith Cymru yn parhau i gael ei bennu gan Lywodraeth Cymru, ac yn nodi ein cynllun buddsoddi mewn seilwaith cyffredinol ar gyfer tymor y weinyddiaeth, a fyddai'n cael ei lywio gan y comisiwn. Byddai'r comisiwn hefyd yn llywio ein fframwaith datblygu cenedlaethol, a fydd yn darparu persbectif strategol, tymor hwy ar anghenion cynllunio, ac mae’n elfen allweddol o’r newidiadau a gyflwynwyd yn Neddf Cynllunio (Cymru) 2015 ar gyfer diwygio'r system gynllunio er mwyn sicrhau ei bod yn deg, yn gadarn ac yn galluogi datblygiad.
Mae'r Llywodraeth hon yn gwerthfawrogi bod amrywiaeth o fodelau eisoes yn bodoli, a syniadau gwahanol ar gyfer statws a chylch gwaith corff seilwaith. Felly, rydym yn gweld sefydlu comisiwn anstatudol ymgynghorol fel y cam cyntaf o gryfhau’r broses o wneud penderfyniadau a darparu ar seilwaith, ac rydym yn agored i newid statws a chylch gwaith y corff os oes, gyda phrofiad, fanteision clir yn dod i'r amlwg ar gyfer gwneud hynny. Mae'r ymgynghoriad yn gofyn amrywiaeth o gwestiynau am sut y dylai'r comisiwn gael ei sefydlu a'i redeg yn ymarferol, gan gynnwys ei berthynas â'r comisiwn seilwaith y mae Llywodraeth y DU yn ei sefydlu gyda chyrff eraill, megis y rhai sydd eisoes yn destun mecanweithiau rheoli prisiau.
Os yw ein comisiwn yn mynd i fod yn rhywbeth sy’n newid y sefyllfa, bydd angen i’w aelodau, a fydd yn cael eu dewis drwy system benodiadau cyhoeddus, fod yn annibynnol ar y Llywodraeth, yn arbenigol ac yn brofiadol. Ni fydd unrhyw gwestiwn o aelodau yn cael eu penodi oherwydd eu swydd neu pwy y maent yn eu cynrychioli. Bydd yr ymarfer penodiadau cyhoeddus y byddwn yn ei gynnal yn sicrhau hyn. Mae angen pobl sy'n meddwl ac yn gweithredu ar draws y sectorau, ac sy’n greadigol ac yn gynhwysol wrth ddadansoddi anghenion y dyfodol—pobl a fydd yn gallu canolbwyntio ar flaenoriaethau ar gyfer unrhyw ymchwil newydd a fydd yn cael ei hintegreiddio, ac yn ychwanegu gwerth gwirioneddol at ddadansoddi a deall ein hanghenion seilwaith.
Dyna pam yr ydym yn cynnig y dylai'r comisiwn allu edrych ar faterion cyflenwi trawsbynciol, os yw o'r farn eu bod yn rhwystr i gyflenwi anghenion seilwaith, yn cynnwys llywodraethu, costau, ariannu, a rhaglen neu fethodoleg rheoli prosiect. Rydym yn benderfynol o gael comisiwn sydd mor amrywiol ag y bo modd, ac yn gofyn yn benodol am syniadau ar y ffordd orau i ennyn diddordeb gan feysydd ymgeiswyr llai amlwg. Rydym wedi ymrwymo i gomisiwn cynhwysol yn ddaearyddol sy'n rhoi cyngor ar anghenion seilwaith ar gyfer Cymru gyfan, ac mae'r ymgynghoriad yn cynnig trefniadau ar gyfer sut y mae'r comisiwn yn ymgysylltu â phobl a chymunedau ar draws y wlad.
Rydym am i'r comisiwn weithio mewn ffordd agored a thryloyw, ac yn cynnig bod y comisiwn yn cyhoeddi adroddiadau blynyddol ar ei waith. Agorodd yr ymgynghoriad ddoe a, chan ystyried gwyliau'r Nadolig a’n dymuniad i gael cymaint o ymatebion cytbwys â phosibl, mae’n ymestyn hyd at 9 Ionawr. Yn dibynnu ar yr adborth o'r ymgynghoriad, rydym yn bwriadu sefydlu'r comisiwn erbyn haf 2017.
A ydych wedi gorffen? Dwi byth yn gwybod p’un a ydych, oherwydd rwyf bob amser yn eich gweld chi’n troi’r dudalen drosodd ac rwy’n meddwl bod tudalen arall. Adam Price.
Diolch i chi, fadam Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad heddiw ac yn wir am yr ymrwymiad i greu comisiwn seilwaith, a osodwyd yn wreiddiol yn y compact, a hefyd am y parodrwydd y mae newydd ei nodi yn ei ddatganiad ar gyfer swyddogaeth, cylch gwaith, statws a ffocws y comisiwn seilwaith i esblygu, ac er mwyn i’r comisiwn ei hun fod yn gallu mynd i'r afael â rhai o'r meysydd trawsbynciol eang o ddiddordeb posibl y gallai fod am ganolbwyntio arnynt.
Rwy'n ddiolchgar iddo am gael golwg ar fersiwn gynnar o'r ddogfen ymgynghori, a gyhoeddwyd heddiw, ac am yr ymgysylltiad cadarnhaol a gafwyd â’r Llywodraeth hyd yn hyn. Mae'n ymwybodol, ac ni fydd yn unrhyw syndod, yn amlwg, gan fod Plaid Cymru wedi cyhoeddi ei dogfen ei hun sy'n nodi ein gweledigaeth o ran y comisiwn seilwaith cenedlaethol yn ddiweddar, fod rhywfaint o olau dydd, rwy’n meddwl, rhyngom o hyd ar nifer o faterion. Os caf, yn fy sylwadau byr yma, hoffwn ganolbwyntio ar dri o'r rhain yn fyr iawn, iawn.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet newydd ddweud, o leiaf i ddechrau, y bydd y comisiwn seilwaith wedi ei gyfansoddi ar sail anstatudol. Nodaf fod ei gydweithiwr plaid a chyn arweinydd y Blaid Lafur, Neil Kinnock, yn ddiweddar yn eithaf ffyrnig mewn gwirionedd wedi beirniadu penderfyniad Llywodraeth y DU i ohirio ei chynlluniau yn dawel, yn flaenorol, i roi comisiwn seilwaith cenedlaethol y DU ar sail statudol. Aeth mor bell â honni bod y rhwyfo yn ôl hwn mewn gwirionedd wedi dryllio’r comisiwn oherwydd nad oedd yn rhoi digon o statws ac annibyniaeth iddo. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ymateb neu roi ystyriaeth i farn yr Arglwydd Kinnock mewn gwirionedd bod sail statudol yn elfen bwysig ar gyfer comisiwn seilwaith llwyddiannus.
Yn ail, ar y mater o ariannu, nodaf fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfeirio at ariannu fel rhan o’r materion cyflwyno trawsbynciol hynny y cyfeiriodd atynt. Mae'n faes o bryder allweddol mewn gwirionedd. Un o'r cyfyngiadau, un o’r problemau—methiannau— cyd-drefnu sydd gennym ar hyn o bryd, rwy’n meddwl, yw'r gallu i lunio pecyn cymhleth o ariannu sydd ei angen yn aml yn y math o brosiectau buddsoddi seilwaith mawr yr ydym yn siarad amdanynt. Mae'n faes cymhleth ac arbenigol iawn ac rwy’n meddwl y gall Ysgrifennydd y Cabinet fod yn cael ychydig o flas ar hynny, yn anuniongyrchol, gyda Chylchffordd Cymru, er enghraifft. Ac oherwydd, wrth gwrs, nid ydym wedi cael comisiwn seilwaith yng Nghymru, sydd wedi ein dal yn ôl o ran maint a graddfa'r buddsoddiad seilwaith. Nid yw’r arbenigedd ar gael i ni, a dyna pam mewn gwirionedd, yn sicr yn ein gweledigaeth ni, ein bod yn gweld swyddogaeth ganolog, boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, ar gyfer y comisiwn seilwaith wrth lunio'r trefniadau ariannu, gan gynnwys rhai o'r dulliau arloesol—y model dosbarthu di-elw y cyfeiriodd yr Ysgrifennydd cyllid ato yn gynharach—ond hefyd ddulliau mwy confensiynol i bartneriaeth cyhoeddus-preifat. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud ychydig am ei feddwl esblygol ar swyddogaeth y comisiwn seilwaith yn hynny o beth. Rydym yn amheus o ran pwy sy'n gwneud hynny. Mae awgrym y gallai'r banc datblygu mewn gwirionedd adeiladu tîm sy'n edrych yn benodol ar fuddsoddi mewn seilwaith. Rydym yn agored i hynny. Y pwynt yw nad oes gennym yr arbenigedd ar hyn o bryd yng Nghymru ac mae angen i ni newid hynny yn gyflym iawn, iawn.
Yn olaf, mae'n gwestiwn mewn gwirionedd sydd mewn ffordd yn gorgyffwrdd, unwaith eto, ei gyfrifoldeb ef a'i gydweithiwr Cabinet yr Ysgrifennydd cyllid, ond mae'n gwestiwn o’r awydd o fewn y Llywodraeth i gynyddu’r cyflymder, ond hefyd ymestyn graddfa'r buddsoddiad seilwaith cyhoeddus. Y llynedd, cynhyrchodd yr OECD adroddiad a oedd yn dweud y dylai economi fodern, economi ddatblygedig, fod yn gwario tua 5 y cant o werth ychwanegol gros ar adnewyddu a moderneiddio seilwaith. Yn y DU y llynedd, roedd mor isel â 1.5 y cant. Mae'n bosibl hyd yn oed yn is yng Nghymru oherwydd y cyfyngiadau hanesyddol ar ein gallu i fuddsoddi mewn prosiectau fel hyn. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi rhaglen gwerth £20 biliwn dros y pum mlynedd nesaf. A yw'r awydd yno yn y Llywodraeth, os oes angen, i edrych ar ffynonellau arloesol o gyllid i oresgyn rhai o'r cyfyngiadau sy'n ein hwynebu o hyd o ran pwerau benthyca, ac ati? Oherwydd a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno, fel y dywedodd Gerry Holtham, cyn-gynghorydd arbennig ariannol i Lywodraeth Cymru, y gallai hyn fod o fudd deuol i Gymru, nid yn unig o ran gosod y sylfeini, drwy'r seilwaith ei hun, am genhedlaeth i ddod , ond hefyd o ran cael symbyliad sylweddol iawn o safbwynt yr economi? Pe byddem yn edrych ar raglen o £3 biliwn ychwanegol dros gyfnod o bum mlynedd, gallai fod yn symbyliad cyfartal i dwf ychwanegol 1 y cant o ran gwerth ychwanegol gros. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed beth yw meddylfryd presennol y Llywodraeth o ran a yw’r awydd gennych i wir gynyddu lefel y buddsoddi mewn seilwaith cyhoeddus, sydd, am amrywiaeth o resymau, wedi bod yn llawer is na llawer o’n cenhedloedd partner ac sy'n cystadlu mewn mannau eraill yn Ewrop yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau, a chofnodi fy niolch i Adam Price ac i Dai Lloyd am y trafodaethau adeiladol iawn yr ydym wedi eu cael? Hoffwn ddiolch i'r Aelodau a'u plaid am yr hysbysiad ymlaen llaw a gefais yn ogystal â’r cynigion ar gyfer comisiwn seilwaith Plaid Cymru ar gyfer Cymru. Rwy'n credu bod y trafodaethau a'r ddogfen a gynhyrchwyd gennych wedi bod yn amhrisiadwy wrth fwrw ymlaen â’r trafodaethau yr ydym wedi’u cael hyd yma, ac, fel y nodais yn fy natganiad, hwn yw’r cam cyntaf, yn fy marn i, ar gyfer sefydlu comisiwn seilwaith ar gyfer Cymru.
O ran yr hyn sydd wedi digwydd ar lefel Llywodraeth y DU, rwy’n cydnabod ei fod yn dipyn o syndod na wnaeth Llywodraeth y DU fwrw ymlaen gyda gwneud eu comisiwn yn statudol. Rydym wedi gofyn am resymu manwl yn y cyswllt hwn, gan ein bod wedi bod yn datblygu ein model ni ar y sail eu bod nhw yn mynd i fod yn gwneud eu model hwy yn statudol. Ac felly'r cam nesaf naturiol, yn seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd yn y blynyddoedd i ddod, fyddai y gallem ni hefyd wedyn drawsnewid ein model ni yn gorff statudol. Rydw i wedi addo sicrhau, erbyn diwedd y Cynulliad hwn, y bydd adolygiad o gylch gwaith, effeithiolrwydd a gweithrediadau’r comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru, fel y gallwn asesu'n llawn a ddylai fod yn statudol. Ac yna, os felly, bydd yn ein galluogi ni i gynnig deddfwriaeth pan fo hynny'n bosibl.
O ran ariannu gwaith, wrth gwrs, mae'n hanfodol fy mod yn gweithio'n agos iawn gyda chydweithwyr ar draws y Llywodraeth, ond yn arbennig gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. Ond mae’r Aelod hefyd yn iawn cyn belled ag y mae ariannu arloesol yn y cwestiwn. Rwy'n credu y bydd aelodaeth y comisiwn seilwaith yn gwbl hanfodol yn hyn o beth. Bydd yn bwysig iawn bod gennym yr arbenigedd priodol nad yw efallai wedi bod ar gael nes yn ddiweddar er mwyn ein galluogi i gyd-drafod pa fath o gyllid arloesol mewn gwirionedd all gefnogi'r prosiectau seilwaith mawr sydd eu hangen yn fawr iawn ar Gymru.
Os caf fi adolygu rhai o'r ystyriaethau yr ydym wedi bod yn eu rhoi i godi cyllid ychwanegol, rydym yn rhannu’r nod o godi arian ychwanegol ar gyfer buddsoddiad seilwaith cyhoeddus drwy ddatblygu modelau sy'n cadw’r rhan fwyaf o nodweddion deniadol y model dosbarthu dielw , ond sy'n adlewyrchu'r drefn dosbarthiad presennol, a all lyffetheirio rhai o'r datblygiadau sy'n cael eu cynnig gan Blaid Cymru. Rydym wedi ymgysylltu â chynghorwyr cyfreithiol ac ariannol i gynorthwyo gyda datblygu model sy'n caniatáu i'r sector cyhoeddus gasglu rhai o'r adenillion i ecwiti, y mae’r Albanwyr, wrth gwrs, wedi bod yn arbennig o lwyddiannus yn ei wneud drwy ganolbwynt, ac yr ydym ninnau hefyd yn cynnig ei wneud.
Rydym wedi ymgynghori'n helaeth gyda chydweithwyr o Futures Scottish Trust a hefyd â Thrysorlys Ei Mawrhydi, gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, Eurostat a Chanolfan Arbenigedd Partneriaeth Cyhoeddus-preifat Ewropeaidd Banc Buddsoddi Ewrop, ac rydym yn datblygu ein model mewn ymgynghoriad ag arbenigwyr, gan gynnwys adolygiad gan gymheiriaid gyda'r ganolfan arbenigedd Ewropeaidd.
O ran y lefelau hanesyddol o danfuddsoddi mewn llawer o'n seilwaith, rwy’n meddwl fy mod wedi sôn yn ystod y cwestiynau yn gynharach ac yn ystod y cwestiwn brys, yn hanesyddol, ein bod wedi gweld tanfuddsoddi yn ein rhwydwaith rheilffyrdd. Mae'n deg dweud bod angen inni gynyddu'n sylweddol lefel y buddsoddiad ar draws ein seilwaith ffisegol a digidol er mwyn sicrhau bod gennym wlad sydd â chysylltiadau da ac sy’n unedig, ac yn wlad lle mae pobl yn gallu byw o fewn eu cymunedau heb bryderu sut y byddant yn cael mynediad at fannau cyflogaeth. Am y rheswm hwnnw, mae'n hanfodol ein bod yn bwrw ymlaen gyda'r hyn sy’n un o'r rhaglenni seilwaith mwyaf uchelgeisiol y mae Llywodraeth wedi’i chyflwyno ers dechrau datganoli. Mae’n cynnwys cynigion ar gyfer ffordd liniaru'r M4, trydedd bont Menai, a gwaith uwchraddio i'r A494, A55, A40, ffordd osgoi'r Drenewydd a ffordd osgoi Caernarfon, yn ychwanegol at y cam nesaf o gysylltedd band eang cyflym iawn, ac mae hefyd yn cynnwys rhaglenni cymdeithasol, megis canolfannau iechyd ac ysbytai newydd, ac, wrth gwrs, ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, addysg uwch ac addysg bellach.
Mae'r Aelod yn llygad ei le wrth honni y gall rhaglenni cyfalaf gynyddu yn sylweddol y raddfa o dwf economaidd mewn gwlad, ac, am y rheswm hwnnw, rydym yn dymuno hefyd gyflymu'r rhaglen adeiladu er mwyn i ni mewn gwirionedd danio economi dyfodol Cymru .
Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw. Nid yw’r comisiwn seilwaith arfaethedig ar gyfer Cymru, byddwn yn dweud, yn ymddangos yn debyg iawn i'r cynnig gwreiddiol a gyflwynwyd gan Blaid Cymru—cynnig, wrth gwrs, a oedd yn ffurfio’r sail ar gyfer cefnogaeth Plaid Cymru i Lywodraeth Cymru.
Rydych hefyd wedi cynnig corff cynghori anstatudol nad yw'n ymddangos i fod yn wirioneddol hyd braich oddi wrth y Llywodraeth. Mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain wedi nodi’n flaenorol—ac rwy'n eu dyfynnu yma—y byddai trosglwyddo cynllunio seilwaith datganoledig, ariannu a chyflenwi i gomisiwn seilwaith Cymru annibynnol yn caniatáu dull cyfannol o gynllunio ein seilwaith, sicrhau arbedion maint a rhoi'r hyder i fusnesau fuddsoddi.
Felly, a gaf i ofyn, ar sail hynny, pam y gwnaethoch ddewis cyfyngu ar swyddogaeth y comisiwn i ddarparu cyngor, yn hytrach na mabwysiadu cynigion Plaid Cymru i fenthyg y swm a nodwyd—£5.5 biliwn?
Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi ei chomisiwn seilwaith cenedlaethol ar sail barhaol ac wedi sefydlu siarter frenhinol. Mae hyn, wrth gwrs, yn rhoi ymrwymiad o annibyniaeth y corff, byddwn i'n dweud. Felly, a gaf i ofyn sut y byddwch yn sicrhau bod y comisiwn yn annibynnol a hefyd efallai y gallech siarad am y trefniadau llywodraethu, hyd at y pwynt hwnnw?
Mae'r ddogfen ymgynghori yn gofyn p’un a ddylai cylch gwaith y comisiwn ymestyn i seilwaith heb ei ddatganoli yn ogystal â seilwaith datganoledig. Efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet roi rhywfaint o fanylion pellach ar ba effaith yr ydych chi'n teimlo y bydd comisiwn Cymru anstatudol yn ei chael ar feysydd nad ydynt wedi'u datganoli, a sut y bydd yn dylanwadu ar benderfyniadau Llywodraeth y DU. Mae'r ymgynghoriad hefyd yn datgan na fyddai'r cylch gwaith yn ymestyn i seilwaith cymdeithasol, felly byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod pam eich bod wedi gwneud y penderfyniad hwnnw. Unwaith eto, mae'n ymddangos i fod yn wahanol i ddull Plaid o weithredu.
Yn olaf, rydych yn datgan y bydd y comisiwn yn ymgorffori egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Nawr, sut y byddwch yn bwriadu monitro a gorfodi hyn ar gorff anstatudol, nad yw'n ddarostyngedig i’r Ddeddf? Efallai y gallech ateb a fydd hyn yn cael ei gynnwys yn y llythyr cylch gwaith y byddwch yn ei anfon at y comisiwn.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad, a dweud, mewn gwirionedd, fy mod yn credu bod angen rhoi mwy o barch i’r trafodaethau sydd wedi digwydd rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru, oherwydd mai’r compact yw'r hyn sydd mewn gwirionedd wedi cyflawni’r darn hwn o waith sy'n yn awr yn mynd yn ei flaen? Rwy'n credu ei fod yn ddarn sylweddol o waith y gallwn fod yn falch ohono.
O ran y comisiwn ei hun, wel, byddai'n annibynnol ac, fel y dywedais yn fy natganiad, bydd aelodau’r comisiwn yn cael eu penodi ar sail gwybodaeth a phrofiad arbenigol ac yn sicr nid yn rhinwedd unrhyw swydd sydd ganddynt. Rwy'n disgwyl i aelodau allu meddwl a gweithredu ar draws pob sector. Bydd angen iddynt fod yn greadigol a bydd angen iddynt fod yn gynhwysol wrth ddadansoddi anghenion yn y dyfodol a hefyd heriau’r polisi cyhoeddus o'n blaenau, megis datgarboneiddio.
Gwneir penodiadau drwy ymarfer penodiadau cyhoeddus agored, sydd, wrth gwrs, yn unol â'r cod ymarfer ar gyfer penodiadau gweinidogol i gyrff cyhoeddus. Bydd eithriad—ac mae hyn yn cydnabod pwynt arall a godwyd gan yr Aelod—cyn belled ag y mae gweithgarwch Llywodraeth y DU yn y cwestiwn a seilwaith ar draws y ffin. Bydd un eithriad, sef penodiad uniongyrchol aelod o gomisiwn seilwaith y DU, a fydd wedyn yn cydnabod natur drawsffiniol llawer o'n seilwaith, yn enwedig y seilwaith a fydd yn cael ei ddatblygu yn y degawdau i ddod, ac rwy’n meddwl, yn arbennig, y broses o gyflwyno metro’r gogledd-ddwyrain a hefyd rywfaint o'r seilwaith ffyrdd sy'n ymestyn o ganolbarth Cymru i mewn i ganolbarth Lloegr.
Cododd yr Aelod bwynt ynghylch benthyca a pham na fyddwn yn cynnwys o fewn cylch gorchwyl y comisiwn y gallu i fod yn gallu benthyg. Yn awr, mae hyn yn bennaf yn fater sydd wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar. Mae'n ddatblygiad diweddar, ond mae'n ymwneud â’r ffaith a fyddai benthyca yn eistedd ar neu oddi ar y fantolen. Mae'r ONS yn ystyried na all modelau dielw ddefnyddio cap elw ac eistedd oddi ar y fantolen. Rydym yn gwybod hynny oherwydd yn ddiweddar gwelwyd Llywodraeth yr Alban yn gwrthod cymhwyso’r model at brosiect cyfalaf ffordd osgoi Gorllewin Aberdeen. Mae hefyd, wrth gwrs, gwestiynau, yr wyf yn meddwl sydd wedi cael eu codi yn y Cyfarfodydd Llawn yn ddiweddar, am ein gallu i fod yn gallu ariannu benthyca, a fyddai'n sylweddol, a amcangyfrifir rhwng £600 miliwn a £700 miliwn bob blwyddyn. Wedi dweud hynny, ni ddylem golli golwg ar y ffaith bod angen i ni fod yn uchelgeisiol iawn cyn belled ag y mae ein gofynion seilwaith yn y cwestiwn, a dyna pam rwy'n benderfynol o fwrw ymlaen â rhaglen adeiladu seilwaith uchelgeisiol iawn.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad ar y comisiwn. Nid wyf yn meddwl y bydd yn syndod i chi y gallai rhai ohonom sydd y tu allan i'ch cyfeillgarwch clyd â Phlaid Cymru fod braidd yn bryderus am bwy mewn gwirionedd fydd yn ffurfio’r pwyllgor hwn. A yw'n mynd i fod yn nifer o apparatshiciaid o’r ddwy blaid neu, yn wir, a ydych mewn gwirionedd yn mynd i edrych y tu allan i gydweithwyr plaid i boblogi’r cabinet hwn mewn gwirionedd? Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet nodi a gysylltwyd ag unrhyw un neu bob un o'r bobl ganlynol, y math o bobl y byddem yn dymuno eu gweld yn poblogi’r comisiwn hwn, pobl fel Gerry Holtham, a oedd yn rheoli cronfa Morley gydag asedau gwerth £125 biliwn, Nigel Annett, a helpodd i arwain Glas Cymru i fod yn sefydliad dielw, Keith Griffiths, sylfaenydd Aedas, cwmni pensaernïol enwog yn rhyngwladol, a Syr Terry Morgan, cadeirydd prosiect adeiladu enfawr, Crossrail, yn Llundain? Cafodd y bobl hyn eu crybwyll fel ymgeiswyr posibl, a byddai'n ymddangos y byddent wedi bod yn amlwg yn addas ar gyfer y pwyllgor hollbwysig hwn.
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau a’i sicrhau nad oherwydd cyfeillgarwch clyd yr ydym ni yma heddiw yn cyflwyno cynlluniau ar gyfer comisiwn seilwaith cenedlaethol, ond oherwydd bod y ddwy blaid wedi penderfynu bod yn gynhwysol, bod yn oddefgar a chael meddwl agored mewn trafodaethau sydd wedi digwydd. Byddem yn croesawu unrhyw bleidiau eraill sy'n dymuno gweithredu mewn ffordd debyg ac sydd â syniadau adeiladol i ni eu datblygu fel Llywodraeth. Bydd y broses benodi yn unol â gweithdrefnau penodiadau cyhoeddus rheolaidd, a gallaf sicrhau'r Aelod na fydd yn cael ei wneud gan aparatshiciaid pleidiol mewn unrhyw ffordd o gwbl.
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ragarwain ei sylwadau drwy ddweud, wrth gwrs, mai Deddf cenedlaethau'r dyfodol yw'r ymbarél ar gyfer barnu popeth. Mae'n rhaid i ni sicrhau Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy, ac, os nad ydym yn darparu'r drafnidiaeth gyhoeddus fel y gall pobl gyrraedd y gwaith, ni fyddant yn gallu cadw’r swyddi gwerthfawr hynny. Felly, rwy'n siŵr nad ydym yn mynd i fod yn penodi unrhyw apparatshiciaid. Yr hyn yr wyf yn pryderu amdano yw ein bod yn penodi pobl sydd wir yn deall her technolegau’r dyfodol yr ydym yn mynd i fod eu hangen i gadw ar y blaen. Felly, rwyf am siarad am ddau beth. Un yw ochr rhyngrwyd pethau. Gwyddom, ym Mryste, eu bod yn cadw cofnod o bawb sy'n gadael am y gwaith, yr amser a ble maen nhw'n mynd, trwy eu ffôn symudol. Tybed a oes gennym y capasiti hwnnw yma yng Nghymru; ac os na, pam ddim? Rwy'n ymwybodol bod yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi buddsoddi £10 miliwn mewn prosiect ymchwil a datblygu i edrych ar sut y gellir ei wneud i weithio yn y dinas-ranbarth. A yw'n mynd i gael ei adeiladu i mewn i fetro’r de, ac a yw’n mynd i gael ei adeiladu i mewn i orsaf fysiau newydd Caerdydd? Oherwydd mae’n hollol anobeithiol os nad oes gennym y lefel honno o gysylltedd gyda thechnolegau newydd.
Yr ail beth yw nad ydych yn gweld llawer o geir trydan yng Nghymru, ac rwy’n meddwl tybed pam. Rwy'n ymwybodol bod llawer o bwyntiau trydan yn y de. Ni fyddai'n syndod pe na fyddem yn gweld rhai yn y gogledd, oherwydd nid oes yno unrhyw bwyntiau cysylltiad trydan. Felly, ni fyddwch yn gallu mynd y tu hwnt i Aberhonddu oherwydd ni fyddwch yn gallu dod yn ôl. Felly, yn amlwg, mae angen i ni gael rhwydwaith sy'n gallu darparu ar gyfer y mathau newydd o geir nad ydynt yn mynd i fod yn llygru yn y modd y mae nwyon disel neu betrol yn ei wneud. Rwy’n gwybod bod rhai cynhyrchwyr ceir hyd yn oed yn anghofio am geir trydan a mynd yn syth i hydrogen. Os mai dyna'r dechnoleg newydd, nid oes gennym ond dau bwynt cyswllt yng Nghymru—un ym Mhort Talbot ac un yn Nhrefforest. Felly, a yw'r rhain y math o bethau yr ydym yn mynd i fod yn gallu mynd i'r afael â hwy mewn gwirionedd yn y comisiwn seilwaith cenedlaethol? Ac a ydych yn mynd i fod yn edrych nid yn unig y tu hwnt i Gymru, ond y tu hwnt i Brydain er mwyn sicrhau ein bod yn cael yr unigolion gorau o'r radd flaenaf sydd wirioneddol yn deall y technolegau newydd hyn, a'n bod yn symud ymlaen yn gyflym ac yn symud y tu hwnt i weddill y DU er mwyn cael y seilwaith y bydd ei angen arnom yn y dyfodol?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am y pwyntiau a'r cwestiynau pwysig a gododd hi yn ei chyfraniad, a dweud ei bod yn hollol gywir mai’r nodau lles yw’r grym y tu ôl i greu comisiwn seilwaith—nodau a fydd yn sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar strategaethau tymor hwy i sbarduno buddsoddi yn y seilwaith er mwyn helpu i ddarparu'r math o gymunedau cynaliadwy ac integredig yr ydym i gyd am eu gweld ledled Cymru? O ran cwestiwn a ofynnwyd yn gynharach gan Russell George mewn cysylltiad â'r nodau lles, fy mwriad i fyddai gwahodd y comisiynydd i archwilio’r potensial o herio'r comisiwn a dal y comisiwn yn atebol am weithredu’r nodau, ac am sicrhau eu bod yn cael eu hanrhydeddu.
O ran aelodaeth—ac rwy’n meddwl bod yr Aelod yn iawn hefyd i ddweud y bydd aelodaeth y comisiwn yn gwbl hanfodol o ran rhoi sylw dyledus i dechnolegau digidol newydd—yn sicr nid wyf yn erbyn y syniad o gael arbenigwyr o'r tu allan i Gymru i ymuno â’r comisiwn. Bydd hon yn broses benodiadau cyhoeddus gwbl agored a thryloyw, a byddwn yn croesawu arbenigwyr o unrhyw le, boed o Gymru, y DU neu ymhellach i ffwrdd, oherwydd fel y dywedais yn fy natganiad, rydym am gael comisiwn amrywiol—un sydd ag aelodau sy'n wirioneddol ychwanegu gwerth ac yn gallu dangos gallu clir wrth ddadansoddi a deall ein hanghenion seilwaith, nid yn unig rhai ffisegol, ond digidol hefyd.
O ran bargen y ddinas a dinasoedd smart, wel, wrth gwrs, roedd yn addewid maniffesto ein plaid i gefnogi datblygiad trefi a dinasoedd smart. Yn ogystal â hyn, fel rhan o'r ymgynghoriad a gynhaliwyd ar gyfer masnachfraint newydd Cymru a'r gororau, roedd yn amlwg mai’r hyn y mae teithwyr yn ei ddymuno yw gwasanaeth sy’n manteisio ar dechnolegau digidol newydd a rhai sy'n datblygu cyn belled ag y mae tocynnau a gwybodaeth ar drenau yn y cwestiwn, yn ogystal ag amrywiaeth o wasanaethau eraill. Felly, byddem yn disgwyl, yn ystod y broses gaffael sy'n digwydd yn awr, i bedwar cynigydd allu cyflwyno cynigion uchelgeisiol i ymelwa a manteisio ar y technolegau digidol diweddaraf ac sy'n dod i'r amlwg mewn trafnidiaeth.
O ran cerbydau modur, mae'n wir, hyd nes yn ddiweddar, nad yw Cymru wedi cael cymaint o bwyntiau trydanu ag y byddem wedi dymuno eu cael ar gyfer ceir trydan. Ond rwy’n cael fy sicrhau gan fy nghydweithiwr Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd fod 100 pwynt trydanu yn cael eu datblygu ar draws Cymru. Mae’r Aelod hefyd yn iawn i nodi bod ceir celloedd hydrogen yn ganolbwynt penodol ar gyfer ymchwil a datblygu yn awr. Yn hyn o beth, mae gennym stori falch iawn i’w hadrodd am Riversimple yn y canolbarth—cwmni sy'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru; cwmni wnaeth ymddangos yn sesiwn agoriadol cynhadledd Autolink 2016 heddiw yma yng Nghaerdydd. Byddaf yn gwneud datganiad am gyfleoedd allforio yn yr wythnosau nesaf, yn seiliedig ar fy nhaith ddiweddar i Japan. Ond yr wythnos diwethaf, pan siaradais â buddsoddwyr yn Japan, roedd gwybodaeth glir o'r gwaith ymchwil a datblygu sydd wedi digwydd mewn cysylltiad â cheir celloedd hydrogen yng Nghymru ac yn y DU. Mae cryn ddiddordeb mewn cefnogi’r ymchwil honno a'n helpu i fanteisio arni er budd nid yn unig ddefnyddwyr ceir, ond yr amgylchedd ehangach.
Hoffwn ddiolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n croesawu'n fawr iawn eich cyhoeddiad heddiw. Deallaf fod Llywodraeth Cymru yn amlwg ar gam cynnar iawn o ran y comisiwn, ond un peth yr hoffwn ganolbwyntio arno yw’r ffaith bod yn rhaid i’r datblygiadau seilwaith hyn yr ydym yn edrych arnynt gysylltu yn ôl i swyddi a gwaith a chyfleoedd hyfforddi da. Cefais fy nharo gan ffaith a ddarllenais dros y penwythnos nad oes gan yr un awdurdod lleol yng Nghymru gynifer o swyddi erbyn hyn ag oedd ganddynt cyn i Thatcher ddechrau chwifio ei bwyell ym 1981. Pa ganllawiau fydd Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i'r comisiwn i sicrhau bod cyfleoedd gwaith da yn cael eu blaenoriaethu? Yn ogystal â hyn, sut bydd y polisi prentisiaethau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru yn clymu i mewn i waith y comisiwn? Yn olaf, rwy’n meddwl bod gan dasglu’r Cymoedd swyddogaeth allweddol i'w chwarae wrth gyflawni amcanion y comisiwn. Sut bydd yn ffitio i mewn i waith y comisiwn?
Rwy'n credu bod yr Aelod yn hollol gywir i nodi'r angen am swyddi o ansawdd uwch o fewn yr economi, nid yn unig er mwyn rhoi gwell cyfleoedd bywyd i bobl ar draws ein holl gymunedau, ond hefyd i wella gwerth ychwanegol gros economi Cymru. Byddwn yn treialu prosiect Swyddi Gwell, yn Nes at y Cartref, rwy’n credu, yn y Cymoedd fel rhan o dasglu’r Cymoedd y mae fy nghydweithiwr, y Gweinidog dysgu gydol oes, yn ei gadeirio. Mae'n hanfodol ein bod yn defnyddio pob sbardun sydd gennym i sicrhau bod pobl nad ydynt wedi gallu manteisio ar gyfleoedd am waith sy'n talu'n dda yn cael cyfleoedd drwy fuddsoddi mewn seilwaith. Rwy’n credu y bydd y gwaith o greu banc datblygu ochr yn ochr â datblygiad y comisiwn seilwaith yn helpu i ddenu adnoddau ychwanegol i mewn i fentrau bach a chanolig. Bydd hyn yn gwbl hanfodol er mwyn eu galluogi i dyfu eu cyfalaf ac felly manteisio ar rai o'r cynlluniau seilwaith mawr sy'n dod i lawr y lein. Efallai mai'r hyn sydd bwysicaf oll i gyflogwyr yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus yw’r cyfleoedd clir sydd ar y gweill ar gyfer uwchraddio seilwaith. Mae'n rhywbeth yr wyf yn ei glywed yn rheolaidd iawn gan gynrychiolwyr cwmnïau o bob maint—yr angen am ddarpariaeth ragweladwy wedi’i threfnu o brosiectau seilwaith y gellir manteisio arni. Mae hyn yn rhywbeth yn fy marn i y gallai'r comisiwn fod â swyddogaeth bwysig iawn yn ei ddarparu.
A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet dros yr economi ac isadeiledd am ei ddatganiad, a chroesawu’r datganiad yma, yn wir, a diolch iddo hefyd am ei eiriau caredig? Rwy’n diolch iddo hefyd am bob cydweithrediad dros y misoedd diwethaf rhwng ei swyddfa fo, swyddfa Adam Price a’m swyddfa i, ynghylch y syniad yma o gomisiwn seilwaith cenedlaethol Cymru—‘national infrastructure commission for Wales’, neu NICW. Wrth gwrs, fel y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi’i ddweud eisoes, mae ein NICW ni yn wahanol i’ch NICW chi, onid yw? Ond mwy am hynny yn y man. Wrth gwrs, mae ein NICW ni wedi bod yn ffrwyth pedair blynedd o waith dygn a manwl ar ran Adam Price a chyfeillion a’r sawl sydd yn ymchwilio i’r math hyn o beth, a hefyd pobl sydd yn gweithio yn y maes, yn naturiol. Mi wnaethom ni ei lansio fo, fel yr ydych chi wedi crybwyll eisoes, ac fel y gwnaeth Adam grybwyll, ryw gwpwl o wythnosau yn ôl, ac roedd y sawl fel yr Institution of Civil Engineers wedi eu cyffroi yn syfrdanol ynglŷn â’r syniadau yma o NICW a oedd o’u blaenau nhw y dyddiau hynny. Hynny yw, NICW pwerus, yntefe, sydd yn sefyll ar wahân ar ei draed ei hun, yn gallu benthyg, yn naturiol, a hefyd yn gallu denu ffynonellau eraill o ariannu.
Felly, corff pwerus—dyna’r weledigaeth, achos, fel rydych chi’n gwybod, rydym ni’n byw mewn amseroedd anodd. Mae economi Cymru—. Os ydych chi’n edrychyd ar y cyfoeth, mae 75 y cant o’n cyfoeth, fel y cyfryw, yn dod o’r sector cyhoeddus, a dim ond 25 y cant sy’n dod o’r sector preifat. Felly, er mwyn cynyddu cyfoeth, mae angen cynyddu beth mae busnes yn ei wneud, ac i ddatblygu’r economi, mae angen, fel yr ydych chi’n gwybod, buddsoddi mewn sgiliau a hefyd, yn naturiol, buddsoddi mewn isadeiledd, ac mae gwirioneddol angen buddsoddi mewn isadeiledd. Gwnaethoch grybwyll bod yn uchelgeisiol. Wel, mae angen bod yn uchelgeisiol, ac yn arloesol, achos mae angen mynd amdani. Mae gyda ni sawl project yn yr arfaeth—rydym ni wedi clywed amdanyn nhw’r prynhawn yma a beth sydd angen ei wneud. Mae rhywbeth yma’n amcangyfrif bod yna brojectau isadeiledd gwerth £40 biliwn yn disgwyl cael eu hadeiladu. Nawr, disgwyl y byddwn ni os nad ydym ni’n gwneud dim arloesol a gwahanol ynglŷn â’r system buddsoddi ac yn gafael yn y cyfalaf er mwyn gallu adeiladu hyn. Dyna pam yr ydym ni wedi dod â’n syniad ni o’r comisiwn seilwaith cenedlaethol yma gerbron. Rwy’n falch iawn bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi croesawu’r syniad a’i fod yn fodlon datblygu a bod yn hollol agored i’w esblygu, fel yr ydych wedi cyhoeddi yn y fan hyn. Nawr, buaswn i’n disgwyl, gobeithio, gweld ychydig bach o esblygu ar eich syniad gwreiddiol chi o fod yn rhyw gorff sydd ddim ond yno i gynghori. Yn sylfaenol, rydym ni angen corff sy’n mynd i wneud pethau, fel y mae’r peirianwyr sifil ac eraill yn y maes adeiladu eisiau ei weld yn digwydd, achos mae amser yn brin, ac mae yna gryn bryder, yn enwedig yn y dyddiau ansicr yma wedi Brexit. Mae angen mynd i’r afael â phethau.
Felly, rwy’n gweld o hwn ein bod ni’n mynd allan i ymgynghori rŵan. A allaf i jest ofyn pa mor agored yr ydych chi i newid eich meddwl? Os ydych chi’n mynd i gael llwyth o bobl yn dod yn ôl atoch yn dweud wrthych, ‘Wel, “actually”, buasai’n well gyda ni gael corff pwerus sy’n gallu gwneud pethau, megis benthyg’, a ydych chi’n mynd i fynd amdani a newid eich meddwl, yn y bôn, a datblygu’r isadeiledd yma yr oedd Jenny Rathbone a Vikki Howells ac eraill yn sôn amdano fo? Dim ond ychwanegu at y rhestr aros yr ydym ni, os nad ydym ni’n mynd i’r afael â’r pethau yma.
Mi fuaswn i’n licio gwybod, fel y mae Adam wedi holi eisoes, beth yn union ydy’r rhesymeg ar hyn o bryd y tu ôl i alltudio projectau adeiladu cymdeithasol, megis adeiladu ysgolion, adeiladu ysbytai, ac adeiladu tai? Pam na fuasem ni’n gallu gwneud hynny o dan ‘remit’ NICW? O dan ein NICW ni, buaswn i’n licio meddwl ein bod ni’n gallu ei wneud e, a buaswn i’n gobeithio y buasai eich NICW chi hefyd yn datblygu’r gallu i wneud hynny, achos, ar ddiwedd y dydd, mae gwir angen mynd amdani. Mae sefyllfa’r economi yn beryglus. Mae’n rhaid inni ddatblygu swyddi i’n pobl ifanc, datblygu cyfoeth ein gwlad, ac mae yna fodd yn y fan hyn, gyda datblygiad y corff anturus yma, i fod yn arloesol ac arwain yn yr ynysoedd hyn. Diolch yn fawr.
Hoffwn ddiolch i Dai Lloyd am ei sylwadau ac am ei ddiolch diffuant, hefyd, am y modd yr wyf i a’m swyddfa wedi gallu trafod cynigion gydag ef ac Adam Price. Rwyf wedi dweud o'r blaen nad oes gen i ddim monopoli ar ddoethineb neu unrhyw hawlfreintiau ar syniadau da. Ac rwy’n meddwl mai’r hyn y mae'r broses hon wedi ei dangos i ni yw, mewn gwirionedd, ei bod yn bwysig iawn inni rannu syniadau da, eu trafod a chynnal dadl arnynt, ac yna gyrraedd sefyllfa gytbwys, yn hytrach na’u gwrthod yn ysmala. Am y rheswm hwnnw, gallaf sicrhau'r Aelod fy mod yn barod iawn i ddewisiadau eraill gael eu cynnig yn ystod yr ymgynghoriad. Roedd hynny’n un o'r rhesymau pam yr wyf yn awyddus i wneud yn siŵr bod yr ymgynghoriad ar agor am gyfnod da, fel y bydd yn ein galluogi ni i ystyried y sefyllfa ddiweddaraf, yn enwedig o safbwynt model Llywodraeth yr Alban a'r dyfarniad diweddar i'r gogledd o'r ffin hefyd. Mae hynny yn amlwg wedi cael effaith ar y ffordd yr ymdriniwyd â model eich plaid chi am gomisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru. Ni fyddaf yn ailadrodd y materion eraill yr ydym wedi eu cael yn ystod y trafodaethau a'r pryderon yr wyf wedi eu codi yn y Siambr ac mewn trafodaethau preifat gyda chi. Digon yw dweud fy mod yn agored i ddadleuon cryf dros newid y model yr wyf wedi'i gynnig yr wythnos hon.
O ran lefel y seilwaith sydd ei angen i danio twf economaidd yn y dyfodol, rwy’n credu ei bod hefyd yn bwysig ein bod yn parchu swyddogaeth y sector preifat o ran cyflawni’r hyn a allai fod yn brosiectau sy'n newid pethau yng Nghymru. Am y rheswm hwnnw, rwy'n credu y bydd swyddogaeth y comisiwn i gymryd golwg hirdymor ar ein hanghenion seilwaith yn gwbl hanfodol. O ran dau brosiect yn unig, Wylfa Newydd a'r morlyn llanw ym mae Abertawe, mae gennym y potensial i ddenu mwy na £15 biliwn o fuddsoddiad a darparu gwaith i filoedd ar filoedd o bobl am flynyddoedd lawer i ddod. Mae hynny'n bwysig am ei bod yn ofynnol i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y seilwaith sy'n angenrheidiol eisoes wedi’i sefydlu er mwyn i’r prosiectau hynny gael eu cyflenwi mewn pryd ac mewn ffordd sy'n cipio cymaint o gyfleoedd gwaith â phosibl i bobl leol. Rwy’n meddwl mai dyna pam, hefyd, ochr yn ochr â datblygiad y comisiwn, mae'n mynd i fod yn bwysig ein bod yn cael sail dystiolaeth oddi wrth Swyddi Gwell, yn Nes at y Cartref i lywio sut yr ydym yn mynd i fod yn sicrhau bod prosiectau seilwaith mawr o fudd i gymunedau a phobl nad ydynt efallai wedi elwa o brosiectau seilwaith mawr yn y gorffennol.
O ran seilwaith cymdeithasol, rwy’n teimlo bod y prosesau sydd ar waith ar hyn o bryd ar gyfer pennu ble a pha seilwaith cymdeithasol y dylid ei ddarparu yn deg ac yn gweithredu'n briodol, ac yn gweithredu'n gyfrifol. Ond, unwaith eto, yn ystod y broses ymgynghori, byddwn yn agored i unrhyw ddadleuon cryf i'r gwrthwyneb.
Diolch. Mae gen i ddau siaradwr arall yr wyf yn bwriadu eu cymryd, felly os yw’n gwestiwn ac ateb byr gan y Gweinidog, gallwn fynd drwy hynny. Jeremy Miles.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych yn nodi yn yr ymgynghoriad bod angen i waith y comisiwn, a chyngor y comisiwn, gael eu gosod yng nghyd-destun rhagolwg realistig o lefel y buddsoddiad cyfalaf sy'n debygol o fod ar gael, ac rydych wedi siarad ychydig am yr ystod o ffynonellau y gallai hynny ddod ohonynt. Ai eich bwriad yw y byddai’r Llywodraeth yn dangos i'r comisiwn yn y llythyr cylch gwaith beth allai cwmpas y cyllid fod, neu a fyddai hynny yn rhywbeth y byddech yn disgwyl i'r comisiwn ei hun ei gynhyrchu?
Yn ail, yn fyr, o ran y meini prawf fydd yn cael eu defnyddio i asesu hyfywedd unrhyw brosiect penodol, ai’r bwriad yw edrych yn ehangach ar effaith prosiect penodol ar yr economi leol a rhanbarthol ac, mewn gwirionedd, yr economi genedlaethol? Gofynnaf y cwestiwn gan fy mod yn casglu mai dim ond dau brosiect trafnidiaeth, Crossrail ac ymestyn llinell y gogledd, sydd wedi cael y golau gwyrdd yn ffurfiol ar y sail honno. Felly, byddai gennyf ddiddordeb yn eich barn ar y meini prawf ar gyfer cymeradwyo prosiectau penodol.
Hoffwn ddiolch i Jeremy Miles am ei gwestiynau a dweud y byddai ariannu a darparu’r seilwaith dan y model yr ydym yn ei gynnig o ran y gronfa o arian sydd ar gael, yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i’r Llywodraeth. Byddai'n cael ei lywio gan gyngor y corff newydd, ond byddai cwantwm gwirioneddol yr adnoddau sydd ar gael yn dal i gael ei benderfynu gan y Llywodraeth. O ran yr asesiad o’r effaith y mae'r Aelod yn tynnu sylw ato, byddwn yn disgwyl i aelodau fabwysiadu arferion gorau cyn belled ag y mae asesiad o effeithiau economaidd neu effeithiau eraill yn y cwestiwn, a bydd hyn, wrth gwrs, yn ei gwneud yn ofynnol penodi’r aelodau iawn i’r comisiwn.
Yn yr un modd rwyf innau’n croesawu’r datganiad heddiw ac, Ysgrifennydd y Cabinet, eich ymateb i fy nghydweithiwr Vikki Howells lle’r oeddech yn cyfeirio at bwysigrwydd cael prosiectau clir yn yr arfaeth, sy'n rhywbeth a gafodd ei ddwyn i mi yn uniongyrchol mewn ymweliad â Tarmac yn Hendre yn fy etholaeth i ddoe, pan wnaethant bwysleisio pwysigrwydd dull mwy strwythuredig o weithredu prosiectau seilwaith mawr. Yn y datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn dweud bod Llywodraeth Cymru
‘wedi ymrwymo i gomisiwn cynhwysol yn ddaearyddol sy'n rhoi cyngor ar anghenion seilwaith ar gyfer Cymru gyfan’.
Byddwn yn eich annog i roi pwyslais cryf ar hynny. Hefyd, yn yr ymgynghoriad, mae'n sôn am wybodaeth arbenigol. Credaf fod angen i hynny hefyd ystyried yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth o ofynion amrywiol a gwahanol y rhanbarthau a ffactorau ar draws y wlad er mwyn sicrhau bod y cynwysoldeb hwnnw yn berthnasol o fewn yr holl waith.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau a dweud fy mod yn gyfarwydd iawn â Tarmac yn Hendre? Credaf mai chwarel Lloyd ydoedd cyn hynny—y teulu Lloyd o Bant-y-mwyn. Roeddwn yn arbennig o falch o fod yn gallu ymuno â'r Aelod ddoe yn P & A Fencing yn yr Wyddgrug i ddysgu am eu cynlluniau i fwy na dyblu nifer y gweithwyr sydd ganddynt, yn rhannol yn sgil darparu ffensys ar gyfer rhaglenni seilwaith mawr. Roedd hynny’n dangos sut y gall busnesau bach a chanolig yng Nghymru fanteisio ar raglenni seilwaith mawr ledled y wlad.
Rwy'n credu bod yr Aelod yn hollol gywir i alw am barch daearyddol i’n seilwaith. O ran hyn, byddaf yn sicrhau na fydd y comisiwn yn cyfarfod yn ne-ddwyrain Cymru yn unig, lle y byddai rhywun yn ei ddisgwyl efallai, ond hefyd ar draws Cymru—yn y gogledd, yn y canolbarth ac yn y gorllewin.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.