Part of the debate – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 18 Hydref 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych yn nodi yn yr ymgynghoriad bod angen i waith y comisiwn, a chyngor y comisiwn, gael eu gosod yng nghyd-destun rhagolwg realistig o lefel y buddsoddiad cyfalaf sy'n debygol o fod ar gael, ac rydych wedi siarad ychydig am yr ystod o ffynonellau y gallai hynny ddod ohonynt. Ai eich bwriad yw y byddai’r Llywodraeth yn dangos i'r comisiwn yn y llythyr cylch gwaith beth allai cwmpas y cyllid fod, neu a fyddai hynny yn rhywbeth y byddech yn disgwyl i'r comisiwn ei hun ei gynhyrchu?