Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 18 Hydref 2016.
Diolch, Simon Thomas, am y cwestiynau hynny. Rwy’n gwrthod yr honiadau y bu diffyg gweithgarwch yn ein rhaglen dileu TB ers i ni gyhoeddi na fyddem ni’n brechu moch daear. Dim ond un rhan o'r rhaglen yw hynny; mae gennym fesurau eraill, ac mae hynny'n cynnwys y gyfundrefn profi anifeiliaid. Rydym ni wedi bod yn profi llawer mwy nag yr oeddem ni. Mae gennym ni’r pecyn Cymorth TB. Rydym wedi cael prynu doeth, er bod hwnnw, yn amlwg, yn gynllun gwirfoddol. Ond rwyf yn credu mai dim ond un rhan o'n cynllun yw hynny.
I ateb eich cwestiwn ynglŷn â phwyso a mesur y modd y caiff y byrddau eu llywodraethu, ceir nifer o agweddau ar hynny. Os ydym ni am weithredu’r dull rhanbarthol hwn, yn amlwg, mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal yn awr—ymgynghoriad 12 wythnos ydyw; mae'n dod i ben ar 10 Ionawr—a cheir llawer o bethau nad ydym wedi cael yr atebion iddynt eto, ac rwyf wirioneddol yn dymuno ystyried yr ymatebion a gawn. Mae angen i ni asesu’r byrddau gan fod y byrddau bellach yn seiliedig ar ranbarthau na fyddant yn cyd-fynd â'r rhanbarthau y byddai gennym wrth symud ymlaen. Felly, rwy’n credu bod angen inni edrych ar hynny. Rwyf hefyd yn awyddus i edrych ar y cydbwysedd rhwng y rhywiau ar ein byrddau, ac rwy'n siŵr na fyddwch chi’n synnu wrth fy nghlywed i’n dweud hynny.
Mewn cysylltiad â Gogledd Iwerddon-. Ac rwy’n falch iawn eich bod chi’n croesawu’r datganiad eglur na fydd difa’n digwydd, fel sy'n digwydd yn Lloegr, ond rwyf wedi ystyried cynllun peilot Gogledd Iwerddon yn fanwl iawn, iawn dros yr haf. Yr hyn yr wyf yn dymuno ei weld yw’r cynlluniau gweithredu pwrpasol hynny yn cael eu cyflwyno. Nid ydym am ymgynghori ar hynny-bydd hynny yn digwydd-ac mae'n bwysig fod gennym-. Wyddoch chi, nid oes gan neb yr ateb. Mae gwir angen inni weithio gyda'n gilydd. Nid oes gennyf yr atebion o’m blaen i yma; nid oes gan ffermwyr yr atebion. Mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda'n gilydd. Felly, yr hyn yr wyf yn dymuno ei weld yw’r cynlluniau gweithredu pwrpasol hynny yn cael eu llunio gyda'r ffermwr, gyda'u milfeddygon, gyda'n milfeddygon ni os oes angen, a chyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion i wneud yn siŵr ein bod yn mynd i’r afael â hynny. Mae wedi bod yn eithaf anodd, yn fy marn i. Ychydig o ddealltwriaeth sydd gennym ynglŷn â sut y mae TB yn lledaenu rhwng gwartheg a moch daear, felly mae'n bwysig iawn bod ffermwyr yn deall gweithgarwch y moch daear ar eu ffermydd, a’n bod ni i gyd yn gweithio gyda'i gilydd o ran hynny. Ac rydych chi'n iawn, mae'n ymwneud ag iechyd a lles poblogaeth y moch daear hefyd. Felly, rwyf wedi gofyn, fel y dywedais, i swyddogion ystyried hynny’n agos iawn.
O ran masnach, gwn fod pryderon wedi’u crybwyll ynglŷn â masnach. Nid dim ond Cymru sydd â TB; mae TB buchol yn bresennol yn rhannau eraill o'r UE. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni’n cadw ein henw da am y safonau uchaf posibl o ran iechyd a lles anifeiliaid. Roeddwn i yn SIAL ym Mharis ddoe, lle’r oedd yn glir iawn bod pobl yn derbyn heb os bod ein cynnyrch ni o'r safon uchaf. Soniwyd wrthyf sawl gwaith fod pobl yn deall bod gan Gymru safon uchel iawn mewn cysylltiad ag iechyd a lles anifeiliaid.
Ynglŷn â gosod cap ar iawndal, rwyf wedi ystyried hynny eto yn ofalus iawn. Mae'n destun ymgynghoriad, fel y dywedais, ac os yw pobl yn teimlo bod—. Fel yr ydych chi’n dweud, mae'n broblem fawr ac efallai ei fod yn ateb eithafol, ond rwy’n credu bod angen i ni edrych ar hynny. Mae'n rhaid i ni ddeall, wrth symud ymlaen, a gadael yr UE, fod 10 y cant o gyllideb y rhaglen dileu TB yn dod o'r UE—sef rhwng £2 filiwn i £3 miliwn yr ydym yn mynd i’w golli. Felly, mae angen inni ystyried ffyrdd o arbed arian. Byddaf, eto, yn ystyried yn fanwl iawn yr ymatebion i'r ymgynghoriad sydd gennym yn ymwneud â'r iawndal. Rwy’n deall pryderon ffermwyr. Ffermwr mewn gwirionedd a ddywedodd wrthyf, 'Gallwn ni yswirio ein gwartheg os ydym ni o’r farn eu bod o werth llawer uwch.' Gallwn bwyso a mesur hynny, fel y dywedais, pan fydd gennym yr ymatebion i'r ymgynghoriad.
Bydd prynu doeth, eto, yn rhan o'r ymgynghoriad, ond rwy’n credu bod llawer iawn o waith y gallwn ni ei wneud i helpu ffermwyr i liniaru'r risg o brynu gwartheg wedi'u heintio. Ac nid yw’n ymwneud â gweithio gyda ffermwyr yn unig, mae'n ymwneud â gweithio gyda marchnadoedd, a gwn ein bod wedi annog marchnadoedd i osod byrddau pan fo gwartheg yn cael eu gwerthu, i gael gwybodaeth ynglŷn â hynny. Ond, mae angen inni edrych ar yr elfen drawsffiniol. Yn amlwg, os bydd yn cael effaith ar draws y ffin, rwy’n hapus iawn i bwyso a mesur hynny, ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben.