6. 5. Datganiad: Y Rhaglen i Ddileu TB Buchol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 18 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 4:41, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

A allaf hefyd ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma? Hoffwn i ddatgan er mwyn y cofnod, fod fferm fy rhieni yng nghyfraith wedi’i heffeithio gan TB buchol yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, ac rwy’n gwybod o brofiad personol pa mor ddinistriol ydyw.

Er fy mod yn croesawu ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ei dull newydd, ni fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn synnu clywed fy mod o’r farn nad yw’r mesurau sy’n rhan o’r dull yn mynd yn ddigon pell ar hyn o bryd i ddileu'r clefyd ofnadwy hwn. Rwy’n credu bod angen dull cyfannol llawn erbyn hyn, sy'n cynnwys defnyddio pob offeryn sydd gennym i ddileu TB buchol yn ein gwartheg a phoblogaethau bywyd gwyllt. Rwy'n siomedig dros ben nad yw datganiad heddiw ar hyn o bryd yn cynnwys dull llawer mwy cyfannol o fynd i'r afael â'r clefyd hwn yn ein bywyd gwyllt.

Yn wir, roedd adroddiad Llys Archwilwyr Ewrop a oedd yn ymwneud â’r rhaglenni dileu, rheoli a monitro clefydau anifeiliaid, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill, yn cydnabod bod angen rhoi mwy o ystyriaeth i TB buchol gan gynnwys mesurau wedi'u targedu ar gyfer bywyd gwyllt. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i Ysgrifennydd y Cabinet yw pa un a yw hi’n derbyn canfyddiadau'r comisiwn neu beidio. Ac, yn unol â hynny, ac yn ychwanegol at ddatblygiadau monitro yng Ngogledd Iwerddon, pa gamau penodol eraill y bydd hi yn eu cymryd yn awr i ddileu TB buchol yn y boblogaeth bywyd gwyllt? Yn wir, efallai y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrthym pa mor hir y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu monitro datblygiadau yng Ngogledd Iwerddon gyda milfeddygon ac arbenigwyr bywyd gwyllt, neu pa un a fydd y datblygiadau hyn mewn gwirionedd yn rhan o'r ymgynghoriad 12 wythnos.

Ceir pryderon hefyd ynghylch y profion ar wartheg, o ystyried pa mor hen a sensitif yw’r prawf presennol. Gwyddom fod gan y prawf presennol ystod sensitifrwydd o 80 i 90 y cant, ac felly mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a'r diwydiant milfeddygol i ail-werthuso a yw'r prawf hwn, yn wir, yn addas at y diben ai peidio. Mae datganiad heddiw yn cyfeirio at ddefnydd cynyddol o’r prawf gama interfferon, ond efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym sut y mae Llywodraeth Cymru yn asesu profion gama interfferon a phrofion gwrthgyrff, a pha un a yw'n fwriad ganddi weld unrhyw weithdrefnau profi newydd eraill yn cael eu cyflwyno. Yn wir, a oes unrhyw le o fewn yr ymgynghoriad i ystyried gweithdrefnau profi? Rwy’n deall bod Ysgrifennydd y Cabinet, y llynedd, wedi buddsoddi mewn cyfleuster profi gama yng Nghaerfyrddin, ac efallai y gallai hi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith hwnnw.

Rwy’n derbyn bod Llywodraethau blaenorol Cymru wedi cefnogi polisi brechu ac rwy’n cytuno â'r datganiad heddiw fod gan frechu ran i'w chwarae. Fodd bynnag, mae llawer mwy o waith i'w wneud o hyd er mwyn deall faint o TB mewn gwirionedd sy’n cael ei ledaenu o fuwch i fuwch, o fuwch i fochyn daear, ac o fochyn daear i fochyn daear, a fyddai'n effeithio ar berfformiad unrhyw frechlyn, yn ddi-amheuaeth. Nodaf o'r datganiad heddiw fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn i swyddogion ymgysylltu â milfeddygon ac arbenigwyr bywyd gwyllt i ddatblygu ffyrdd o roi terfyn ar y cylch trosglwyddo. Felly, a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu ychydig mwy o fanylion am y math o ymgysylltu y mae hi’n dymuno ei weld?

Nawr, mae datganiad heddiw hefyd yn sôn am ddull rhanbarthol, gan rannu ardaloedd TB Cymru yn dri chategori, yn seiliedig ar y lefelau o achosion, a bod Llywodraeth Cymru yn ystyried gwahanol strategaethau ar gyfer y gwahanol gategorïau hyn. Er fy mod yn deall bod yn rhaid dilyn dull sy’n seiliedig ar risg er mwyn adlewyrchu gwahaniaethau rhanbarthol o ran nifer yr achosion o'r clefyd, mae hefyd yn hanfodol nad yw unrhyw strategaethau newydd sy’n seiliedig ar risg mewn ardaloedd yn anghymesur ar gyfer ffermwyr ac nad yw ffermwyr yn wynebu rheolaethau llym ofnadwy. Felly, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym ba fesurau a fydd yn cael eu defnyddio ym mhob un o'r meysydd categori newydd a sut y bydd y mesurau hynny mewn gwirionedd yn gymesur ar gyfer ffermwyr.

Wrth gwrs, fel y mae’r datganiad yn cydnabod, dylid ystyried cynyddu mesurau bioddiogelwch yn rhan hanfodol o unrhyw strategaeth TB buchol, ac rwy’n gobeithio nad yw Llywodraeth Cymru dim ond yn rhoi mwy o ganllawiau a gorchmynion i ffermwyr ynglŷn â bioddiogelwch ar y fferm a'r tu hwnt i’r fferm, ond ei bod yn darparu cymorth ariannol ychwanegol er mwyn gwneud iawn am unrhyw gostau uwch hefyd. Yn wir, a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym os bydd cyfle i ffermwyr wneud cais i'r rhaglen datblygu gwledig am arian ar gyfer offer bioddiogelwch, megis cyfleusterau trin gwartheg a chafnau bwyd sy’n ddiogel rhag moch daear, er enghraifft?

Lywydd, rwyf wedi dweud yn glir iawn fy mod yn awyddus i weld strategaeth ar waith er mwyn mynd i'r afael â TB buchol sy'n defnyddio’r holl offer sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i ni ddileu TB buchol yn iawn yn ein poblogaeth bywyd gwyllt yn ogystal â'n poblogaeth gwartheg, a'r unig ffordd o wneud hynny yw cynnwys difa moch daear heintiedig mewn ffordd nad yw’n achosi poen. Nodaf nad yw hi wedi diystyru hynny’n llwyr yn y datganiad heddiw. Felly, rwy’n croesawu rhai o'r mesurau yn rhan o ddull newydd Ysgrifennydd y Cabinet heddiw, ond rwy’n credu nad yw dull y Llywodraeth ar hyn o bryd yn mynd yn ddigon pell. Rwyf eisiau ei gwneud hi’n glir i Ysgrifennydd y Cabinet y byddwn ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn parhau i graffu ar ei pholisïau yn y maes hwn, a byddwn hefyd yn parhau i alw ar y Llywodraeth i wneud y peth iawn drwy fabwysiadu dull cwbl gyfannol tuag at ddileu TB buchol unwaith ac am byth. Diolch.