6. 5. Datganiad: Y Rhaglen i Ddileu TB Buchol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 18 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 4:58, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Yn dilyn fy nghyfarfodydd â rhanddeiliaid, gan gynnwys grwpiau o ffermwyr yn fy etholaeth, a drefnwyd yn garedig gan yr FUW ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, ond cyfarfodydd hefyd yr wyf wedi’u cynnal â sefydliadau lles anifeiliaid, rwy’n gwybod y bydd mabwysiadu dull cytbwys a phwrpasol o fynd i'r afael â TB buchol, a amlinellir yn natganiad Ysgrifennydd y Cabinet, o gysur iddynt.  Amcangyfrifir bod 95 y cant o heintiau yn digwydd o fuwch i fuwch, rydym ni’n gwybod hynny. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud y peth cywir wrth ganolbwyntio ar well rheolaeth o wartheg.

Mae gennyf ddau gwestiwn. Awgrymodd gwaith ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan yr Athro Rosie Woodroffe o Gymdeithas Sŵoleg Llundain ym mis Awst fod halogiad yn cael ei drosglwyddo drwy dir pori wedi'i heintio a thail. Mae gan hyn oblygiadau ar gyfer arferion ffermio megis gwasgaru slyri. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o’r dystiolaeth hon wrth bennu ei dull? Yn ail, awgrymodd data gan y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a gasglwyd dros gyfnod o 25 o flynyddoedd fod nifer uwch o achosion o TB ymysg rhai mathau o anifeiliaid, gan gynnwys hyddod brith a chathod fferm, na moch daear. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y ffynonellau posibl hyn o'r clefyd yn ei dull?