6. 5. Datganiad: Y Rhaglen i Ddileu TB Buchol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 18 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 4:56, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn cytuno â hynny o gwbl. Nid wyf yn credu y gallwch chi gymharu brechu a difa o gwbl. Mewn cysylltiad â'ch sylwadau ynglŷn â Gogledd Iwerddon, fel rwyf wedi dweud, rwy’n credu—yn sicr wrth ystyried yr hyn y maent wedi bod yn ei wneud—ei fod wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar y boblogaeth moch daear hefyd, ac rwy'n bryderus iawn ynglŷn ag iechyd a lles moch daear hefyd, wrth gwrs. Nid wyf yn rhagdybio’r hyn a fydd yn y cynlluniau gweithredu pwrpasol, ond yr hyn yr ydym yn ei ddweud yw ei bod hi’n bwysig iawn bod y milfeddygon, y ffermwyr a'r APHA yn dod at ei gilydd i lunio’r cynlluniau gweithredu hyn, yn enwedig ar gyfer y buchesi hyn sydd â TB cronig. Soniais fod y 10 buches sydd wedi bod â TB cronig am yr amser hiraf, gyda’i gilydd—maent wedi bod dan gyfyngiadau am 106 o flynyddoedd. I mi, nid yw hynny'n gynaliadwy, ac nid wyf yn credu ei fod yn dderbyniol ychwaith.

O ran haint yn cael ei drosglwyddo o fuwch i fuwch neu o fuwch i fochyn daear, mae llawer mwy y mae angen inni ei ddysgu. Eto, rwyf wedi gofyn i’m swyddogion weithio gyda'r APHA a chyda milfeddygon a ffermwyr unigol ar hyn. Gwnaethom ni gynnal gweithdy, rwy’n credu mai ar 10 Hydref oedd hynny, lle gwnaeth ecolegwyr moch daear ac arbenigwyr mewn systemau hwsmonaeth gwartheg—a hefyd rheoli tir glas, gan fy mod yn credu bod hynny'n bwysig iawn hefyd—gyfarfod i drafod y dewisiadau ar gyfer lleihau'r risg o gyswllt uniongyrchol ac yn anuniongyrchol rhwng y ddwy rywogaeth. Rwy’n credu mai'r hyn sydd yn wirioneddol bwysig—ac rwyf wedi sôn amdano o'r blaen—yw bod ffermwyr yn gwybod lle mae’r ardaloedd o weithgaredd moch daear a’r lefel o weithgarwch ar eu ffermydd, er mwyn iddynt wedyn allu cymryd camau i atal y cyswllt hwnnw. Felly, er enghraifft, mae dadansoddiadau neu waith ymchwil wedi bod sy'n dangos bod moch daear yn ymweld ag adeiladau fferm lle maent yn casglu deunyddiau i wneud eu gwlâu neu le mae cnwd cyfan o silwair, er enghraifft. Felly, rwy’n credu ei fod yn bwysig iawn bod y math hwnnw o wybodaeth yn hysbys, ac weithiau nid yw'n hysbys, ac weithiau mae'n anghywir. Felly, rwy'n credu bod hynny'n faes lle y gall ffermwyr hefyd ein helpu i wireddu ein nod o ddileu TB.