Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 18 Hydref 2016.
Diolch, Lywydd. Ar 20 Medi, cyhoeddodd y Prif Weinidog ein rhaglen lywodraethu ar gyfer y pum mlynedd nesaf, gan roi ein hymrwymiad i barhau i adeiladu cymdeithas unedig a chysylltiedig. Er mwyn helpu i wireddu'r uchelgais hwn, rydym wedi ymrwymo i gyflwyno system drafnidiaeth integredig amlfoddol ar gyfer Cymru gyfan, gan gynnwys metro y de a’r gogledd, a fydd yn gweithredu fel glasbrint ar gyfer systemau integredig ar draws Cymru. Bydd cyflwyno rhwydwaith mwy effeithiol o wasanaethau bws yn sylfaenol i'n huchelgais. Gwasanaethau bysus rheolaidd lleol yw sylfaen ein system trafnidiaeth gyhoeddus, a bydd hynny’n parhau.
Mae'n ffaith bod mwy o bobl yng Nghymru yn defnyddio bysus cyhoeddus fel dewis amgen i'r cerbyd modur preifat fel dull teithio dyddiol i'r gwaith ac ar gyfer hamdden. Ac er ein bod wedi gweld tuedd ar i lawr yn nifer y teithiau gan deithwyr ar wasanaethau bws lleol dros y degawd diwethaf, mae bysus yn parhau i gyfrif am fwy na 101 miliwn o deithiau bob blwyddyn. Mae hyn yn fwy o lawer na nifer y siwrneiau a wneir ar ein rhwydwaith rheilffyrdd. Felly, rydym wedi ymrwymo’n llwyr yn y tymor hir i ddarparu rhwydwaith bysus mwy effeithiol, yn ogystal ag ymrwymo i gefnogi'r diwydiant bysus yn y tymor byr.
Y mis diwethaf, cyhoeddais gynllun pum pwynt i gefnogi'r diwydiant bysus yng Nghymru. Heddiw, rwyf am roi cyfle i'r Aelodau drafod y cynllun ac ystyried sut y gallem ddatblygu gwasanaethau bws lleol yn rhan o'r system drafnidiaeth gyhoeddus integredig sy'n addas ar gyfer Cymru fodern a chysylltiedig. Fel nifer o Aelodau yn y Siambr hon, rwyf wedi cael fy synnu a fy nhristáu gan dranc diweddar a sydyn dri chwmni bysus lleol oedd yn gwasanaethu rhai o'n cymunedau mwy gwledig, nid yn unig oherwydd yr effaith y mae hyn wedi’i chael ar y bobl sy'n gweithio i’r cwmnïau bysus, ond yr effaith ar y bobl sy'n byw yn y cymunedau a wasanaethir ganddynt. Mae colli’r gwasanaethau hanfodol hyn, a oedd yn galluogi pobl i fynd i'r gwaith, i fynd i apwyntiadau ysbyty ac i gael eu haddysg, yn dangos yn glir pa mor fregus y mae ein rhwydwaith bysus mewn gwirionedd.
Dan y cynllun pum pwynt a gyhoeddais y mis diwethaf, byddaf yn cynnig cymorth proffesiynol ymroddedig i bob cwmni bysus yng Nghymru drwy Busnes Cymru a Chyllid Cymru, a byddaf yn galw ar awdurdodau lleol i wneud pob ymdrech i ddiogelu eu cyllid ar gyfer gwasanaethau bysus yn yr hinsawdd economaidd heriol bresennol. Mae timau o ymgynghorwyr busnes a staff cymwysedig iawn gan gwmnïau bysus mwy o faint, ond gall nifer o’r cwmnïau llai o faint fod yn fusnesau teuluol sy'n cael eu rhedeg heb y manteision hynny. Rwyf am sicrhau bod y cwmnïau bysus llai yn cael y cyngor a'r cymorth a fydd yn eu helpu i ddod yn fusnesau gwell a chryfach. Byddwn yn mynd ati i weithio gydag awdurdodau lleol i nodi, cyn gynted ag y bo modd, y gwasanaethau bysus sydd o bosibl mewn sefyllfa fregus. Lle bydd y rhain yn cael eu nodi, byddwn yn rhoi strategaeth leol ar waith i ymateb i unrhyw gynlluniau i ddileu gwasanaethau a ystyrir yn hanfodol i gynaliadwyedd a lles y gymuned leol.
Byddaf yn cwrdd ag arweinwyr yr awdurdodau lleol yng Nghaerdydd a Chasnewydd, ynghyd â chyfarwyddwyr rheoli eu cwmnïau bysus trefol, i gasglu gwybodaeth am sut y gellir gweithredu rhwydweithiau bysus cynaliadwy, gan gynnal y difidend cymdeithasol, drwy fuddsoddi mewn gwelliannau i wasanaethau. Byddaf hefyd yn gweithio gyda’r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr i gyfuno nodweddion gorau'r sector masnachol preifat â chyfrifoldeb cymdeithasol y gweithredwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Rwyf wedi cytuno i ariannu'r swyddi cydlynwyr bysus newydd, un yn y gogledd ac un yn y de, er mwyn dwyn ynghyd y gwahanol elfennau polisi a buddsoddiad i ddatblygu'r model partneriaeth ansawdd bysus statudol. Rwy’n awyddus i weld mwy o gytundebau ffurfiol rhwng awdurdodau lleol a gweithredwyr bysus, o ddewis drwy'r cynlluniau partneriaeth ansawdd bysus statudol hyn.
Yn olaf, fel rhan o'r cynllun hwn, rwyf wedi cytuno i gynnal uwchgynhadledd ar wasanaethau bysus yn gynnar yn 2017. Bydd yr uwchgynhadledd yn dod ag awdurdodau lleol, gweithredwyr bysus, grwpiau sy'n cynrychioli teithwyr a phobl anabl ynghyd â’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol a phartneriaid eraill at ei gilydd i ystyried y ffordd orau o gyflwyno gwasanaethau bws sy'n hyfyw yn ariannol ac yn gynaliadwy yn y tymor hwy. Roedd angen y cynllun gweithredu er mwyn ymdrin â'r bygythiadau go iawn i’n gwasanaethau bysus lleol yn y tymor byr, a bydd yr uwchgynhadledd hon yn gyfle i ganolbwyntio ar y dyfodol, yn hytrach na’r gorffennol. Rwy’n argyhoeddedig bod gwir angen dull cydweithredol a chreadigol o sicrhau rhwydwaith bysus teg a chynaliadwy o safon uchel sy'n gwasanaethu cymunedau ac yn sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr. Gyda'n gilydd, mae angen inni ddiffinio'r hyn yr ydym yn dymuno i'n gwasanaethau bysus ei gyflawni fel rhan o system drafnidiaeth gyhoeddus integredig, ac yna ddylunio fframwaith a all ddarparu’r gwasanaethau hyn o safon uchel. Felly, ni allai amseriad yr uwchgynhadledd fod yn well, gan ei bod yn dod ar adeg pan fydd y setliad datganoledig gwell a gynigir drwy Fil Cymru yn dod i rym. Bydd y setliad newydd yn ein galluogi ni i roi fframwaith ar waith ar gyfer gwasanaethau bysus a fydd yn gallu darparu’r gwelliant o ran ansawdd, rhwydwaith, amlder, dibynadwyedd a phrydlondeb y mae pob un ohonom yn y Siambr hon yn dymuno ei weld.
Mae cyhoeddi'r safonau gwirfoddol o ran ansawdd bysus Cymru ym mis Mawrth eleni yn fan cychwyn da. Maent yn nodi’n glir, am y tro cyntaf, y safonau ansawdd yr ydym yn dymuno eu gweld ar waith o ran y gwasanaethau bysus lleol. Mae'n bwysig y gall teithwyr fod yn hyderus y bydd ansawdd y gwasanaethau bysus lleol yn gymwys yn gyffredinol i wasanaethau bysus rheolaidd lleol ar draws Cymru gyfan. Ni ddylai ansawdd y gwasanaeth a ddarperir yn rhannau mwy gwledig Cymru fod yn llai ffafriol na'r rhai a ddarperir o fewn y metro neu’r ardaloedd mwy trefol.
Rwyf hefyd yn croesawu cynigion yr Adran Drafnidiaeth, fel rhan o'r Bil Gwasanaethau Bws, i ddiwygio Deddf Cydraddoldeb 2010 i'w gwneud yn ofynnol i weithredwyr bysus ledled Prydain Fawr ddarparu gwybodaeth hygyrch ar gerbydau i deithwyr anabl. Ers 2013, rydym wedi rhoi cefnogaeth i gyflwyno systemau clyweledol i gyhoeddi’r stop nesaf ar fysus i wneud y gwasanaethau bysus yn fwy hygyrch i’r deillion a phobl rhannol ddall. Rydym wedi annog gweithredwyr bysus i osod y systemau hyn ar eu cerbydau fel rhan o safonau ansawdd bysus Cymru, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr gweinidogol yn Lloegr a'r Alban i sicrhau bod gwybodaeth o ansawdd ar gael i deithwyr yn gyffredinol ar draws Prydain Fawr. Drwy gyflwyno’r systemau hyn, ynghyd â gwella ansawdd y gwasanaethau, megis datblygiad parhaus gwasanaeth bws TrawsCymru, sy’n darparu gwell cysylltedd teithiau pellter hir lle mae’r gwasanaethau rheilffordd yn brin neu ddim yn bodoli o gwbl, mae modd gwyrdroi’r dirywiad mewn nawddogaeth gwasanaethau bysus, gan gynnig dewis arall go iawn i bobl ddiwallu eu hanghenion cludiant.
Felly, wrth edrych i'r dyfodol, rhaid inni fod yn realistig. Efallai na fydd darparu gwasanaethau bysus lleol rheolaidd sydd yn ariannol hyfyw ac yn gynaliadwy yn y tymor hwy i bob cymuned yng Nghymru yn realistig, yn gyraeddadwy neu'n fforddiadwy. Ond nid wyf yn barod i adael cymunedau mwy ynysig orfod byw bywyd sy'n dibynnu'n gyfan gwbl ar y car modur preifat. Nid yw hynny'n dderbyniol. Felly, yn yr uwchgynhadledd, byddaf yn galw ar ein partneriaid, y diwydiant bysus a'n partneriaid awdurdod lleol, i ystyried atebion i ddiwallu anghenion cludiant ein holl gymunedau. Mae angen cael system drafnidiaeth a thocynnau integredig sy'n cynnwys cymysgedd o wasanaethau cludiant o ansawdd sy'n ymateb i'r galw ac yn cydgysylltu’n llawer mwy effeithiol â gwasanaethau bysus rheolaidd lleol a gwasanaethau pellter hir a ddarperir gan ein rhwydwaith TrawsCymru a’n masnachfraint rheilffyrdd.
Mae hon yn her y mae’n rhaid i ni yn Llywodraeth Cymru, ynghyd ag awdurdodau lleol a'r sectorau bysus a thrafnidiaeth gymunedol, fynd i'r afael â hi. Gyda'n gilydd, rwy'n hyderus y gallwn ddarparu rhwydwaith bysus teg a chynaliadwy o safon uchel sy'n rhoi i gymunedau ac unigolion ledled Cymru y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt ac y maent yn eu haeddu.