7. 6. Datganiad: Dyfodol Gwasanaethau Bysiau yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 18 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 5:25, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu eich datganiad heddiw yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n ddatganiad cadarnhaol iawn, ac rwy'n edmygu’r hyn yr ydych wedi'i ddweud heddiw.

Mae gen i nifer o gwestiynau. Yn gyntaf, byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu'r cyllid sydd ynghlwm wrth yr ymrwymiadau a wnaed heddiw, ac a ydych wedi ystyried cytundeb ariannu amlflwyddyn a fydd yn rhoi sicrwydd i weithredwyr allu cynllunio a buddsoddi yn eu gwasanaethau, yn hytrach na chytundeb fesul blwyddyn?

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi dweud bod llawer mwy o bobl yng Nghymru yn defnyddio bysus o’i gymharu â theithiau a wneir ar ein rhwydwaith rheilffyrdd. Felly, gyda hynny mewn golwg, mae diffyg cydbwysedd rhwng yr arian cyhoeddus sy’n cael ei wario ar y rhwydwaith rheilffyrdd a’r arian sy’n cael ei wario ar y rhwydwaith bysus. Felly, tybed os oes gennych farn ar y cydbwysedd hwnnw, ac a ydych chi’n credu bod angen mynd i'r afael â hynny.

Rhaid i mi ddweud, rwy’n edmygu’n fawr y pwynt a wnaethoch nad ydych yn barod i ganiatáu i gymunedau mwy ynysig orfod byw bywyd sy'n dibynnu'n gyfan gwbl ar y car modur, a bod hyn yn gwbl annerbyniol. Wrth gwrs, mae hynny'n arbennig o berthnasol i gymunedau gwledig ledled Cymru. Mae toriadau i grant gweithredwyr gwasanaethau bysus wedi golygu bod rhai teithiau wedi dod i ben. Yn sicr, fy marn i yw bod y grant gweithredwyr bysus yn hanfodol i sicrhau gwasanaethau bysus rheolaidd i gymunedau, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig ynysig hynny y soniasoch chi amdanynt. Felly, a gaf i ofyn a ydych chi wedi ystyried adfer y cyllid llawn ar gyfer y grant hwn i roi’r hyder i awdurdodau lleol a gweithredwyr bysus gynnal ac adfer teithiau bysus a oedd yn anymarferol yn flaenorol?

Mae canfyddiad diwylliannol hefyd yn dal i fod nad yw bysus yn ddulliau ymarferol o gludiant i bawb. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu helpu i annog newid yn y canfyddiad hwn, ac yn blaenoriaethu mesurau a fydd yn cymell mwy o bobl i newid o ddefnyddio trafnidiaeth breifat i ddefnyddio bysus, drwy fesurau megis tocynnau smart, sydd, wrth gwrs, yn gwneud teithio yn fwy cyfleus a hyblyg.

Nid yw’r diwydiant bysus yng Nghymru wedi celu’r ffaith, yn sicr nid i mi pan gyfarfûm â chynrychiolwyr dros yr haf, bod gwir bartneriaeth rhwng gweithredwyr, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn angenrheidiol. Felly, a gaf i ofyn pa gynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru wrth weithredu argymhellion gan eich grŵp cynghori polisi bysus, sydd wedi argymell yn flaenorol y dylid sefydlu partneriaethau rhwydwaith?

Yn ychwanegol at hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi cynnig Bil bysus, a’r nod yw cadarnhau'r trefniadau ar gyfer gwaith partneriaeth yn y sector. Nododd eich rhagflaenydd yn flaenorol bod nifer o gyfyngiadau sylweddol i bwerau presennol y Cynulliad i gyflwyno deddfwriaeth debyg yng Nghymru. A fyddech yn gallu ehangu ar hyn? A gaf i ofyn hefyd pa fwriadau sydd gan y Llywodraeth i ymestyn y cynllun tocynnau teithio rhatach i ofalwyr iau sy'n cyflawni rôl bwysig yn y gymdeithas yng Nghymru, ac sydd ar hyn o bryd yn colli allan ar gysylltiadau trafnidiaeth hanfodol i addysg bellach?

Ac yn olaf, roeddwn yn falch eich clywed yn crybwyll 'integredig' sawl gwaith yn ystod eich datganiad. Mae'r diffyg integreiddio rhwng amserlenni bysus a threnau wedi bod yn broblem sy’n gofyn am welliannau mawr. Byddwch yn ymwybodol fy mod wedi sôn wrthych am broblem yn fy etholaeth i fy hun, yng Nghaersws, lle mae'r bws yn cyrraedd un funud ar ôl y trên, neu i'r gwrthwyneb. Felly, byddwn yn ddiolchgar i gael mwy o wybodaeth am yr hyn yr ydych yn bwriadu ei wneud i sicrhau system drafnidiaeth integredig, ac osgoi’r problemau hyn gyda’r amserlenni.