Part of the debate – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 19 Hydref 2016.
Diolch, Lywydd. Chwarter wedi naw y bore, ddydd Gwener 21 Hydref, 1966—fe wnaeth effaith digwyddiadau ofnadwy’r diwrnod hwnnw yn Aberfan ddiasbedain o gwmpas y byd. Ar ddiwrnod olaf y tymor ysgol, collodd un pentref glofaol bychan 116 o blant a 28 o oedolion. Ni fyddai dim yr un fath byth eto i Aberfan, i Gymru, i’r byd. Un diwrnod yn ddiweddarach, un awr yn gynt, a byddai pethau wedi bod mor wahanol.
Aberfan oedd y trychineb mawr cyntaf a welodd y byd drwy lens camera teledu, ac roedd yr effaith yn enbyd. Mae gweld ffrydiau diddiwedd o lowyr, gwirfoddolwyr, gweithwyr brys a’r lluoedd arfog yn ymladd yn ddiflino i ddod o hyd i rai’n fyw, ac i gludo’r rhai a fu farw, yn glir iawn yng nghof unrhyw un a oedd o gwmpas ar y pryd. Er gwaethaf yr ymdrechion arwrol hyn, ni chafodd neb ei ganfod yn fyw ar ôl 11:00 y bore.
Fel plentyn bach, nad oedd yn byw yn Aberfan, na hyd yn oed yng Nghymru ar y pryd, dyma’r stori newyddion gyntaf y mae gennyf gof amdani. Cymaint oedd ei heffaith, mae arswyd yr hyn a ddigwyddodd ar y diwrnod hwnnw wedi aros gyda mi drwy gydol fy oes, wrth i mi gofio mor glir fy rhieni’n diolch i Dduw nad fi neu fy mrawd a oedd wedi mynd i’r ysgol y diwrnod hwnnw i beidio â dod adref byth. Roedd eu tristwch yn arllwys allan dros bobl nad oeddent yn eu hadnabod ac na fyddent byth yn eu cyfarfod, ond fel rhieni ifanc eu hunain, dyma bobl roedd ganddynt empathi llwyr â hwy. Ar y pryd, teimlai pawb boen Aberfan.
Wrth gwrs, dyna’r diwrnod y newidiodd cymuned Aberfan am byth. Ni fyddai’r rhai a oroesodd byth yn gwybod am normalrwydd bywyd heb drasiedi. Collodd teuluoedd feibion, merched, brodyr, chwiorydd, gwŷr, gwragedd, rhieni a neiniau a theidiau—bywydau a chwalwyd o dan y mynydd o laid du. Euogrwydd y rhai a oroesodd pan fu farw eu ffrindiau, euogrwydd rhieni roedd eu plant wedi goroesi pan gafodd llawer eu gadael yn ddi-blant, rhieni plant a gollwyd, yn methu ymweld â’u beddau, neu newid ystafell wely plentyn, athrawon a laddwyd wrth wneud eu gwaith—trawma mud y gwyddom ei fod yn aros gyda chymaint ohonynt hyd yn oed yn awr.
Ni adawyd neb heb ei effeithio gan y digwyddiadau ofnadwy hyn, ond rhoddodd y gymuned bob cysur a nerth i’w gilydd i ddod drwyddi. Wrth i ni ddathlu hanner canmlwyddiant y trychineb, mae’n rhoi amser i ni i gyd fyfyrio ar y bywydau a gollwyd, y teuluoedd a dorrwyd, y goroeswyr a boenydiwyd. Ond mae hefyd yn ein galluogi i fyfyrio ar gadernid cymuned a’r dewrder a ddangoswyd yn wyneb y trychineb mwyaf enbyd.
Mae’r hyn a ddigwyddodd y diwrnod hwnnw yn dangos i ni fod pris glo, mewn man lle roedd cloddio amdano yn unig reswm dros ei fodolaeth, yn bris rhy uchel i unrhyw gymuned ei dalu. Ond glo hefyd oedd wedi creu’r cymunedau glofaol hyn nad oedd eu gwerthoedd o undod, brawdoliaeth ac ysbryd cymunedol i’w weld yn aml mewn mannau eraill. Mae’r ysbryd hwnnw wedi parhau i fyw ymhell wedi i’r glo olaf gael ei dorri yn Ynysowen, ac mae’r ysbryd hwnnw wedi bod er y fath glod i bobl Aberfan, gan eu galluogi i ailadeiladu eu bywydau a’u cymuned, ac i edrych ymlaen gyda dewrder, urddas a gobaith.
Mae’r urddas hwnnw wedi bod mor amlwg wrth i’r bobl Aberfan ddod ynghyd i wneud trefniadau i nodi’r hanner canmlwyddiant, ac rwy’n talu teyrnged i bob un ohonoch, nid eleni’n unig, ond bob dydd o bob blwyddyn, am bopeth a wnewch dros eich gilydd, ac er cof am y rhai a gollwyd. Rwyf wedi gweithio gyda nifer ohonoch yn ystod y misoedd a’r wythnosau diwethaf wrth i ni drafod y digwyddiadau hyn, a bu’n fraint dod i’ch adnabod a bellach i’ch galw’n ffrindiau.
Er ei bod yn anodd siarad am bethau cadarnhaol wrth ystyried maint y dioddefaint a wynebodd y gymuned lofaol fechan hon, efallai fod rhyw gysur mewn cydnabod ei fod wedi arwain yn y pen draw at gael gwared ar yr holl domenni glo ar draws y wlad, gan sicrhau na allai trychineb Aberfan byth ddigwydd eto. Arweiniodd at welliannau mewn iechyd a diogelwch yn y gwaith, yn enwedig mewn diwydiant trwm, ac arweiniodd at gydnabod effaith profiadau pobl yn Aberfan o’r diwedd fel cyflwr meddygol anhwylder straen wedi trawma, fel bod y rhai a oedd angen triniaeth am y trawmâu roeddent wedi’u dioddef yn gallu ei chael. Felly, er bod digwyddiadau’r hanner canmlwyddiant yn sicr yn dod ag atgofion ofnadwy yn ôl i lawer, mae hefyd yn amser i’r wlad gyfan ddod at ei gilydd i gefnogi Aberfan a rhoi gwybod iddynt nad aiff y rhai a gollwyd byth yn angof. Bydd y gymuned hon yn tyfu ac yn cryfhau gyda phob blwyddyn ac wrth i genedlaethau newydd adeiladu eu dyfodol a dod yn obaith newydd.
Wrth gloi, mae’n rhaid i mi gydnabod pa gydymdeimlad ac empathi bynnag a fynegwn, ni all neb ond y rhai sy’n rhan uniongyrchol o hyn wybod beth oedd gwir effeithiau 21 Hydref 1966. Ond fe allwn, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ran pobl Cymru, a chymaint o bobl y tu hwnt iddi, obeithio y bydd ein gweithgarwch coffáu yn cynnig rhywfaint o gymorth a chysur parhaus i gymuned Aberfan.