Part of the debate – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 19 Hydref 2016.
Taflodd lluniau erchyll trychineb Aberfan rywfaint o oleuni ar y golygfeydd annirnadwy y bu’n rhaid i gymuned Aberfan, Cymru a’r byd eu dioddef 50 mlynedd yn ôl. Aeth y drasiedi hon, a lyncodd 20 o dai ac ysgol y pentref, â bywydau 28 o oedolion a 116 o blant. Roedd y plant newydd ddychwelyd i’w hystafelloedd dosbarth ar ôl canu ‘All things bright and beautiful’ yn eu gwasanaeth. Heddiw, fe gofiwn yr oedolion a’r plant a gollodd eu bywydau mewn modd mor drasig, ond rhaid i ni hefyd fyfyrio ar ddewrder y rhai a oroesodd a’r rhai a gafodd brofedigaeth. Ar ôl darllen straeon y goroeswyr sydd bellach wedi teimlo y gallant dorri’r tawelwch hunllefus a rhannu eu profiadau o’r diwrnod hwnnw, rwy’n rhyfeddu at ddewrder aruthrol ac ysbryd cymunedol pobl Aberfan wrth wynebu’r dyfodol yn dilyn y fath dorcalon a dinistr. Mae’r straeon personol a roddwyd gan y rhai a oedd yno ar y diwrnod, fel Karen Thomas, a achubwyd gyda phedwar o blant eraill gan eu cynorthwy-ydd cinio, Nansi Williams, a aberthodd ei bywyd ei hun mor anhunanol i achub y plant ifanc yn ei gofal, yn dangos y dewrder rhyfeddol sy’n rhan annatod o gymuned Aberfan.
O’r lluniau du a gwyn hunllefus hynny, gallwn weld y duwch aruthrol a lyncodd Aberfan y diwrnod hwnnw. Ond er gwaethaf yr erchyllterau a ddioddefwyd, ni ildiodd y gymuned i’r tywyllwch, gan ddewis cloddio’n ddiflino am y goleuni yn lle hynny. Fe gofiwn gyda theimladau o’r parch a’r tosturi mwyaf.