Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 19 Hydref 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae ystadegau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn dangos bod gwariant cyfalaf ar wasanaethau cymdeithasol wedi gostwng 45 y cant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, o £22 miliwn yn 2014-15 i £12.6 miliwn yn y flwyddyn y ariannol ddiwethaf—y gostyngiad mwyaf o holl wariant cyfalaf llywodraeth leol. Mae’r gwariant refeniw hefyd wedi gostwng 0.4 y cant. Yn wyneb y gostyngiad hwn yn y cyllid, a fyddech mor garedig ag egluro ymrwymiad Llywodraeth Cymru i integreiddio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn well a gweithio i gael gwared ar yr ansicrwydd sy’n wynebu llawer o adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol?