<p>Gwariant Cyfalaf Diweddar Awdurdodau Lleol</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 19 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:49, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn atodol. Pan gaiff addasiadau cyfrifyddu eu hystyried, credaf fod gwariant cyfalaf ar wasanaethau cymdeithasol wedi gostwng 1.1 y cant y llynedd mewn gwirionedd, ac roedd hynny’n cyd-fynd â’r amcangyfrifon roedd awdurdodau lleol wedi’u darparu ac nid yw’n ystyried y cyfalaf ychwanegol o £10 miliwn a ddarparwyd drwy’r gronfa gofal canolraddol, sy’n cael ei wario’n bennaf ar faterion yn ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol.

Yn y gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd ddoe, lle y gallwn, am y tro cyntaf ers nifer o flynyddoedd, roi cyllideb i awdurdodau lleol yng Nghymru heb doriadau arian parod ynddi, rwyf wedi clustnodi £25 miliwn at ddibenion gwasanaethau cymdeithasol, mewn ymateb i’r alwad gan yr awdurdodau lleol eu hunain, ond gan gydnabod yn glir y pwysau y mae’r gwasanaeth hwnnw’n ei wynebu.