<p>Diffyg Trysorlys ei Mawrhydi</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 19 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Shadow Spokesperson (Wales) 1:52, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rhybuddiodd Ysgrifennydd y Cabinet ddoe fod yna adegau o brinder o’n blaenau, ac y dylid defnyddio’r gyllideb eleni fel cyfle i’r rhai sy’n derbyn cyllid yn y sector cyhoeddus baratoi ar gyfer toriadau o ran y caledi sy’n cael ei orfodi gan Lywodraeth Dorïaidd y DU. Ond yn awr mae gennym y broblem ychwanegol hon o £66 biliwn o ddiffyg a ragfynegir pe baem yn mynd am delerau llym wrth adael yr UE, gan gydymffurfio â rheolau Sefydliad Masnach y Byd yn hytrach na chael mynediad rhydd a dilyffethair at yr UE. Byddai hynny’n gwneud tolc anferth yn nerbyniadau Llywodraeth Cymru. I ba raddau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cynnwys effaith y tolc o £66 biliwn yn ei ragfynegiadau, a pha effaith a gâi hynny ar ragamcanion gwariant cyfalaf yn y dyfodol?