Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 19 Hydref 2016.
Mae Eluned Morgan yn tynnu sylw at yr effaith hirdymor y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y telerau anghywir yn ei chael ar Gymru. Mae’r gyllideb a gyflwynais ddoe yn ymdrin â chanlyniadau uniongyrchol colli cyllid Ewropeaidd posibl a fyddai wedi dod i Gymru fel arall. Ond effaith hirdymor llai o dwf yn economi’r DU, gyda phopeth y byddai hynny’n ei olygu o ran derbyniadau treth ac arian sydd ar gael ar gyfer gwariant cyhoeddus, yw’r pryder mwyaf yn y tymor hir. Ar gyfer y gyllideb ddoe, mae tu hwnt i gwmpas y gyllideb refeniw un flwyddyn y gallwn ei chyflwyno, yn rhannol oherwydd yr ansicrwydd y mae hi’n cyfeirio ato. Yn ddi-os, pe baem yn gweld toriadau ar unrhyw beth tebyg i’r raddfa a awgrymir yn y ddogfen honno a ddatgelwyd yn answyddogol, byddai’r goblygiadau i Gymru yn ddifrifol iawn yn wir.