Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 19 Hydref 2016.
Weinidog, yn amlwg, ers 23 Mehefin, nid yw’r awyr wedi disgyn ar ein pennau, mae twf economaidd yn iach ac yn y pen draw, mae capasiti gweithgynhyrchu yn ehangu. Bu llawer o ragfynegiadau ar y ddwy ochr i ddadl y refferendwm, ond yr hyn rydym yn ymwneud ag ef yma yw’r byd go iawn ac mae angen yn awr iddo fynd rhagddo, wedi’r trafodaethau. A ydych wedi cael trafodaethau gyda’ch cyd-Aelodau yn y Cabinet am hyrwyddo Cymru fel cyrchfan ar gyfer buddsoddi a chyfleoedd buddsoddi, gan fod gweinyddiaethau datganoledig eraill, a rhanbarthau yn wir, ar draws y Deyrnas Unedig yn cynyddu eu gweithgarwch i hyrwyddo rhinweddau eu hardaloedd? A ydych wedi cael trafodaethau gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet ynglŷn â sicrhau bod adnoddau ychwanegol ar gael i wneud llwyfan cryfach ar gyfer hyrwyddo’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig, ar ôl pleidlais y refferendwm ar adael yr UE ar 23 Mehefin?