Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 19 Hydref 2016.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cael ei chynrychioli yn y Cydbwyllgor Gweinidogion gan y Prif Weinidog a byddaf yn mynd gydag ef i’r cyfarfod hwnnw. Byddwn yn mynd i’r trafodaethau hynny yn yr un modd yn union ag y byddech yn ei ddisgwyl i Weinidogion yn yr Alban a Gogledd Iwerddon fynd i’r trafodaethau hynny, gan sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu dwyn yn gadarn ac yn anosgoadwy i sylw Prif Weinidog a Gweinidogion eraill y DU, ac i sicrhau bod ein llais yn parhau i gael ei glywed wrth i safbwynt negodi’r DU barhau i ddatblygu.