<p>Diffyg Trysorlys ei Mawrhydi</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 19 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:57, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau nad oes unrhyw ragolwg swyddogol o’r Trysorlys o ddiffyg o £66 biliwn yn deillio o adael yr UE, a bod y ffigwr hwn wedi dod o un papur briffio ymysg nifer gan un o weision sifil anhysbys y Trysorlys, ac mae’n bur bosibl ei fod wedi’i ysgrifennu er mwyn cael ei ddatgelu’n answyddogol yn y lle cyntaf? Byddai’r diffyg o £66 biliwn mewn refeniw treth, sef yr hyn y cyfeiriai ato, yn awgrymu cwymp o 9.5 y cant yn ein hincwm cenedlaethol. Mae hyn yn amlwg yn afresymol o ystyried hyd yn oed os na chawn gytundeb â’r UE o’r trafodaethau gadael hyn, ni fydd tariff ar 75 y cant o nwyddau a gwasanaethau masnachu yr UE beth bynnag.