Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 19 Hydref 2016.
Mae’r ffigur o £66 biliwn yn dod o ddogfen a ddatgelwyd yn answyddogol, fel y cytunodd yr Aelod. Serch hynny, cynhyrchodd y Trysorlys gyfres o sesiynau briffio llawer mwy ffurfiol cyn y refferendwm ar 23 Mehefin. Dangosai pob un o’r rheini yr effaith andwyol y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei chael ar ragolygon economaidd y Deyrnas Unedig. Gwelaf nad yw’r Trysorlys wedi datgysylltu ei hun oddi wrth unrhyw un o’r datganiadau a wnaeth bryd hynny.