Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 19 Hydref 2016.
Iawn, diolch yn fawr. Yn y naratif ar y gyllideb a gafodd ei gyhoeddi ddoe, rydych chi’n sôn bod y Llywodraeth am gymryd camau pellach i leihau baich gweinyddol llywodraeth leol, drwy gyfuno grantiau a symud cyllid o grantiau penodol i gronfeydd heb eu neilltuo, drwy’r grant cynnal refeniw. Pa gamau y mae’r Llywodraeth wedi’u cymryd tuag at y nod yma?