<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 19 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:04, 19 Hydref 2016

Wel, rŷm ni’n bwrw ymlaen gyda’r bwriad yna yn y flwyddyn ariannol nesaf. Rydw i wedi siarad â phob aelod o’r Cabinet; maen nhw i gyd wedi rhoi rhai grantiau i mewn i’r RSG am y flwyddyn nesaf. Mae hynny’n rhan o’r patrwm rŷm ni wedi’i greu fel Llywodraeth dros y blynyddoedd diwethaf. Rydw i’n awyddus i fwrw ymlaen yn yr un modd am y flwyddyn nesaf, hefyd, ble rŷm ni’n gallu rhoi mwy o hyblygrwydd i’r awdurdodau lleol i ddefnyddio’r arian sydd ar gael iddyn nhw. Rwy’n cytuno gyda nhw mai hynny yw’r ffordd orau i drio defnyddio’r arian yn y dyfodol.