<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 19 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless UKIP 2:10, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

A siarad mwy am y cyllido, fel tad i blant dwy a phedair oed rwyf wedi cael profiad o systemau gofal plant yng Nghymru ac yn Lloegr. Mae’n amlwg fod y ddarpariaeth mewn ysgolion yng Nghymru yn dda o ran ansawdd at ei gilydd, ond mae anhyblygrwydd pum sesiwn 2.5 awr yn golygu ei bod yn anodd iawn i lawer o rieni sy’n gweithio fanteisio arni, ac mae cyfradd cyfranogiad menywod yn y farchnad lafur, yn arbennig, yn is yng Nghymru. A yw hynny’n rhywbeth y mae’r Llywodraeth yn bwriadu ei newid drwy ei system gofal plant newydd? Ai’r bwriad i raddau helaeth yw hybu cyfranogiad yn y farchnad lafur? Os felly, ac er gwaethaf y gwaith ymchwil annibynnol, a yw Ysgrifennydd y Cabinet o ddifrif yn hyderus fod £84 miliwn yn ddigon i ddarparu ar gyfer y newid ymddygiad tebygol pan ddaw’r system gynhwysfawr hon yn weithredol?