Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 19 Hydref 2016.
Wel, mae ein hymagwedd tuag at ofal plant yng Nghymru bob amser wedi bod seiliedig ar y cysylltiadau rhwng argaeledd gofal plant fforddiadwy o ansawdd da a chyfranogiad yn y farchnad lafur. Rydym bob amser wedi bod eisiau sicrhau bod digon o ofal plant yno i wneud yn siŵr fod menywod, yn arbennig, yn gallu dilyn gyrfaoedd yn y farchnad swyddi yn y ffordd y byddent yn dymuno. Mae’r Aelod yn gwneud pwynt pwysig am hyblygrwydd oherwydd dyna’n union pam y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi penderfynu bwrw ymlaen ar sail cynllun peilot, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn llunio’r cyflenwad ychwanegol o ofal plant y bydd ei angen i gyflawni’r addewid mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’r patrymau gweithio y bydd eu hangen ar y teuluoedd a fydd am fanteisio ar y gwasanaeth newydd. Felly, mae’n ystyriaeth bwysig, ac eisoes yno fel rhan o’r dull peilot. Fe wnaethom waith mawr cyn yr etholiad ar bennu’r ffigurau rydym wedi’u cyhoeddi sy’n dangos beth y credwn fydd ei angen ar y cynllun hwn, ond byddwn yn dysgu o’r cynlluniau peilot mewn perthynas â’r swm hefyd, yn ddiau.