Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 19 Hydref 2016.
Wel, diolch i Simon Thomas am y cwestiwn. Dros gyfnod y rhaglen o 2014 i 2020, mae tuag at £1.9 biliwn ar gael drwy gronfeydd strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru. Mae £855 miliwn, sef 44 y cant o’r dyraniad, wedi cael ei ymrwymo eisoes. Rydw i’n disgwyl y bydd yn bosib defnyddio’r cyfan o’r £1 biliwn sydd ar ôl, ond bydd ein gallu i wneud hynny’n dibynnu ar amserlen Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.