Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 19 Hydref 2016.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am yr ateb, gan ddweud wrtho ef, wrth gwrs, ein bod ni i gyd yn gobeithio y bydd modd cadw cymaint o’r arian yma y tu mewn i’r grochan, fel petai, cyhyd ag sy’n bosib. A gaf i gyflwyno ei sylw ef at un cynllun yn arbennig sydd wedi bod yn llwyddiant, rwy’n meddwl, yng Nghymru, sef cynllun Sêr Cymru, i ddenu ymchwilwyr a gwyddonwyr i Gymru? Mae’r cylchgrawn ‘Science’ o fewn y pythefnos diwethaf wedi adrodd ar lwyddiant y cynllun yma sydd wedi denu dros 100 o gymrodorion i Gymru a rhyw 20 o ymchwilwyr blaengar iawn, sy’n ein helpu ni, wrth gwrs, i ymateb i bethau fel newid hinsawdd, ynni, ac, yn wir, ymateb i Brexit yn y ffordd yr ydym yn edrych ar ddyfodol y diwydiant amaeth, er enghraifft. Pa gadarnhad y medrwch, Weinidog, ei roi y bydd cynlluniau fel Sêr Cymru yn parhau i gael eu cefnogi gan y Llywodraeth, hyd yn oed ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd?