Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 19 Hydref 2016.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi i longyfarch Prifysgol Abertawe ar ddatblygu rhaglen i ymestyn graddau Meistr ymchwil a doethuriaethau mewn peirianneg, gan weithio gyda rhai o’r cwmnïau diwydiannol mwyaf blaenllaw yn y DU ac yn y byd? Yn sicr, mae’n rhywbeth y mae economi Cymru ei angen yn daer. Cefnogir hyn gan gyllid yr Undeb Ewropeaidd. Beth fydd yn digwydd pan ddaw cyllid yr Undeb Ewropeaidd i ben?