Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 19 Hydref 2016.
Roeddwn yn falch iawn yr wythnos diwethaf o allu cyhoeddi £850,000 yn ychwanegol o gyllid yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y cynllun y cyfeiriodd Mike Hedges ato. Mae’r busnesau sy’n cymryd rhan ynddo yn cynnwys Tata Steel, BASF, y Bathdy Brenhinol ac eraill. Byddant yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o lunio prosiectau ymchwil yn seiliedig ar ddatblygiadau technolegol sy’n digwydd yn eu diwydiannau. Ein nod, fel y mae’n gwybod, yw sicrhau cymaint â phosibl o arian Ewropeaidd tra bo ar gael i ni. Mae cyhoeddiad Canghellor y Trysorlys ynglŷn â’r warant oes ar gyfer cynlluniau y cytunwyd arnynt cyn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ddefnyddiol yn y ffordd honno. Rwy’n siŵr y bydd y cynllun hwn yn dangos ei werth a gallwn ddadlau wedyn dros ei barhau y tu hwnt i’r cyfnod o ariannu strwythurol.